Mae
Cwpan Calcutta
yn cael ei gyflwyno'n flynyddol i enillydd y gem
rygbi'r undeb
rhwng yr
Alban
a
Lloegr
ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Dyma'r hynaf o nifer o gystadlaethau unigol sy'n cael eu cynnal o dan ymbarel y
Pencampwriaeth
y
Chwe Gwlad
, sydd hefyd yn cynnwys: Tlws y Mileniwm (rhwng Lloegr ac
Iwerddon
), Quaich y Canmlwyddiant (rhwng yr Alban ac Iwerddon), Tlws Giuseppe Garibaldi (rhwng yr
Eidal
a
Ffrainc
) a'r Auld Alliance (rhwng yr Alban a Ffrainc).
Ar
Ddydd Nadolig
1872, chwaraewyd gem o rygbi yn
Calcutta
rhwng 20 o chwaraewyr yn cynrychioli Lloegr a 20 yn cynrychioli'r Alban. Cymaint oedd llwyddiant y gem fel y penderfynwyd ffurfio Clwb Calcutta ym mis Ionawr 1873.
Ymunodd y Clwb a'r Rugby Football Union (RFU) ym 1874, a bu'n ffyniannus am gyfnod, ond gwelwyd gostyngiad yn ei aelodaeth pan orfodwyd y clwb i gau'r bar rhydd, a bu'n anodd denu rhagor o aelodau newydd am nad oedd yr hinsawdd yn mor addas ar gyfer rygbi ag ydoedd i rai chwaraeon eraill fel
tenis
a
polo
. Penderfynodd yr aelodau ddiddymu'r Clwb ond, er mwyn parhau a'i enw, tynnwyd yr arian (a oedd mewn Rupees Arian) o'r banc, eu toddi a'u troi'n gwpan i'w gyflwyno i'r RFU gyda'r ddealltwriaeth y byddai cystadleuaeth amdano yn flynyddol.
Y cais gwreiddiol oedd i'r Cwpan gael ei gyflwyno i enillydd cystadleuaeth rhwng clybiau, tebyg i
Gwpan FA
ym myd
pel-droed
. Gwrthodwyd y syniad hwnnw, a phenderfynwyd ei gyflwyno'n wobr i enillydd gem flynyddol rhwng yr Alban a Lloegr. Chwaraewyd y gem Cwpan Calcutta gyntaf yn Raeburn Place,
Caeredin
, ar 10 Mawrth 1879 a diweddodd yn gyfartal. Ni chafodd y Cwpan ei gyflwyno i'r naill dim na'r llall y diwrnod hwnnw, a Lloegr a'i enillodd am y tro cyntaf y flwyddyn ganlynol.
Erbyn hyn, os yw'r gem yn gyfartal, fel ag y gwelwyd yn 2019 pan orffennodd y gem gyda sgor o 38-38, mae'r Cwpan yn aros gyda pha bynnag wlad oedd y ddiwethaf i'w ennill, sef yr Alban yn yr achos hwnnw.
Mae'r Cwpan ei hun yn grefftwaith Indiaidd, wedi'i addurno a
chobraod
fel dolenni ac
eliffant
ar ei gaead. Mae'n 18 modfedd (45 centimedr) o uchder. Mae'r gwreiddiol mewn cyflwr bregus iawn ac erbyn hyn mae gan Loegr a'r Alban atgynhyrchiadau o'r cwpan sydd wedi'u creu gan ddefnyddio technoleg fodern.