Sant
Cymreig oedd
Curig
(fl. c.
550
?), a flodeuai yn oes
Maelgwn Gwynedd
. Fe'i cysylltir a sawl lle yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Cymru a
Brycheiniog
. Fe'i gelwir weithiau
Curig Lwyd
(h.y. 'sanctaidd') a
Curig Farchog
. Delir ei
ddydd g?yl
ar
16 Mehefin
.
Dywedir fod Curig yn rhyfelwr yng ngwasaneth Maelgwn Gwynedd a droes at grefydd. Digiodd hynny Faelgwn a cheisiodd rwystro'r sant, ond parodd Curig i Faelgwn a'i w?r fynd yn dall a bu rhaid i dri o feibion Maelgwn roi tir i Gurig. Sefydlodd
glas
ar y tir hwnnw, ar safle pentref
Llangurig
(gogledd
Powys
) heddiw. Tan ddiwedd yr
16g
roedd bagl neu groes Curig i'w gweld yn eglwys
Sant Harmon
, 6 milltir o Langurig dros y bryniau. Ceir disgrifiad o'r groes gan
Gerallt Gymro
yn ei
Hanes y Daith Trwy Gymru
(
1188
): 'yn eglwys Sant Garmon ceir y fagl a enwir Bagl Sant Curig, yr hon a ymestyn ychydig yn ei brig, ar y naill achr a'r llall, ar wedd croes, ac a orchuddir amgylch ogylch ag aur ac arian.' Arferid gwella cleifion a hi.
Yn ol un traddodiad cysegrwyd Curig gan Sant
Paul Aurelian
a threuliodd gyfnod yn astudio wrth draed
Tudwal
yn
Llanilltud Fawr
.
Cysylltir Curig a
Chapel Curig
yn
Eryri
yn ogystal. Mae lleoedd eraill a gysylltir a'r sant yn cynnwys plwyf
Llandegai
, Brycheiniog, lle ceir Ffynnon Gurig.
Ymddengys ei fod wedi mudo i
Lydaw
ar ddiwedd ei oes a cheir sawl eglwys yno sy'n dwyn ei enw. Dywedir y bu farw yn
Landerneau
a chael ei gladdu yn
Locquirec
.
- T. D. Breverton,
The Book of Welsh Saints
(Cyhoeddiadau Glyn D?r, 2000)
- Thomas Jones (gol.),
Gerallt Gymro
(Caerdydd, 1938), t. 16.