Mewn
mathemateg
, mae
cromlin
(hen enw: 'llinell grom'), yn gyffredinol, yn wrthrych tebyg i linell nad yw'n syth. Mae 'crom' yn enw benywaidd y gair 'crwm', neu 'crwn'. Gofod
topolegol
yw'r gromlin, sy'n homomorffig, yn lleol, i linell. Mewn iaith bob dydd: mae cromlin yn set o bwyntiau sydd, yn agos at bob un o'i bwyntiau, yn debyg i linell. Enghraifft syml o gromlin yw'r
parabola
. Astudir nifer fawr o gromliniau eraill mewn gwahanol feysydd mathemategol.
Un math o gromlin yw'r gromlin gaeedig, lle mae'r dechrau yn un a'i diwedd, fel llwyb cylchog, sy'n ffurfio arwyneb o'i mewn. Astuydir cromlinau mewn graffiau ee cromlin Phillips a 'r
graff dau ddimensiwn
.
-
Drwy sleisio drwy
con
, ceir gwahanol fathau o gromlinau diddorol. Gwnaed hyn yng
Ngwlad Groeg
, pan oedd mathemateg yn ei ddyddiau cynnar.
-
-
Roedd
Geometreg ddadansoddol
yn caniatau i gromliniau, megis
Foliwm Descartes
, i gael eu diffinio gan ddefnyddio
hafaliadau
yn lle adeiladu geometrig.
Yn gyffredinol, gellir diffinio'r gromlin fel ffwythiant di-dor
o
gyfwng
I
rhif real
i ofod topolegol
X
. Yn ddibynol ar y cyd-destun, mae naill ai'n
neu ei ddelwedd
a elwir yn 'gromlin'.