Croeshoelio

Oddi ar Wicipedia
Y Croeshoeliad gan Pietro Perugino .

Dull o ddienyddio a ddefnyddid yn weddol gyffredin mewn nifer o wledydd hyd y 4g OC oedd Croeshoelio . Byddai'r person condemniedig yn cael ei hoelio neu ei glynu ar groes, a'i adael i farw. Cofnodir croeshoelio yn yr Ymerodraeth Bersaidd , ymysg y Carthaginiaid , y Groegiaid , yr Ymerodraeth Seleucaidd a'r Rhufeiniaid , o'r 6ed ganrif CC ymlaen. Y person mwyaf adnabyddus i farw trwy groeshoelio oedd Iesu Grist . Yn ol traddodiad, cafodd Sant Pedr ei groeshoelio a'i ben i lawr, tra croeshoeliwyd ei frawd, Sant Andreas , ar groes o'r ffurf a elwir yn Crux decussata neu Groes Sant Andreas, ar ffurf X. Yn y flwyddyn 337 , gwaharddodd yr ymerawdwr Cystennin Fawr ddefnyddio croeshoelio yn yr Ymerodraeth Rufeinig.

Y bwriad wrth groeshelio oedd sicrhau marwolaeth gyhoeddus, araf a phoenus, a fyddai'n rhoi rhybudd i eraill. Gellid cael nifer o wahanol fathau ar groes; er enghraifft fe allai fod yn bolyn heb ddarn ar draws, crux simplex neu palus yn Lladin . Yn yr Ymerodraeth Rufeinig, ni ellid croeshoelio dinesydd Rhufeinig fel rheol. Pan orchfygodd y Rhufeiniaid dan Marcus Licinius Crassus fyddin Spartacus yn 71 CC , croeshoeliodd Crassus chwe mil o garcharorion ar hyd y Via Appia .

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .