Y Croesgadau
|
Enghraifft o'r canlynol
| rhyfel
, gwrthdaro
|
---|
Math
| ymgyrch filwrol
|
---|
Dechreuwyd
| 1095
|
---|
Daeth i ben
| 1291
|
---|
Yn cynnwys
| Y Groesgad Gyntaf
, Brwydrau'r croesgadwir rhwng 1101 a 1145, Yr ail Croesgad, Brwydrau'r croesgadwir rhwng 1149 a 1189,
Y Drydedd Groesgad
,
Y Bedwaredd Groesgad
, Y Pumed Groesgad, Y Chweched Groesgad, Croesgad y Barwniaid, Rhyfel y Lombardiaid, Crwysgad 1101, Siege of Gaza
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Mae'r erthygl hon yn ymwneud a Chroesgadau'r Oesoedd Canol. Am enghreifftiau eraill o'r gair Croesgad (neu Cr?sad), gweler
Croesgad (gwahaniaethu)
a
Croesgadwr
.
Roedd
y Croesgadau
yn gyfres o ymgyrchoedd milwrol a ymladdwyd gan
Gristnogion
o orllewin
Ewrop
draw yn y
Dwyrain Canol
yn yr
Oesoedd Canol
, sef rhwng diwedd yr unfed ganrif ar ddeg a diwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Eu pwrpas oedd adfeddiannu'r Tiroedd Sanctaidd, gan gynnwys lleoedd cysegredig
Palesteina
oddi ar y
Mwslimiaid
. Roedd y tiroedd hyn yn bwysig i Gristnogion oherwydd dyma lle'r oedd Cristnogaeth wedi cychwyn, ac ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg cyhoeddodd y
Pab
bod angen achub y Tir Sanctaidd rhag rheolaeth gan Fwslemiaid. At ei gilydd dyma gychwyn cyfnod pan ymladdwyd wyth croesgad bwysig. Bu sawl ymgyrch gan Gristnogion i recriwtio pobl i ymladd yn y Croesgadau a dyma oedd pwrpas taith
Gerallt Gymro
drwy
Gymru
yn 1188. Roedd
Jeriwsalem
yn fan ymladd allweddol rhwng Cristnogion a Mwslimiaid ac yn bwysig i’r ddwy
grefydd
. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth Jeriwsalem, a mannau cysegredig eraill ym Mhalesteina, yn gyrchfannau pwysig i bererinion Cristnogol gan mai'r rhain oedd y tiroedd lle'r oedd
Iesu Grist
wedi byw. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith bod hon yn broses barhaol, gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes.
Roedd cyfuniad o resymau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol am y croesgadau;
- Gwleidyddol
? Roedd gobaith y byddai'r croesgadau yn ailuno’r Eglwys Gatholig Orllewinol ac Eglwys Uniongred Ddwyreiniol Groeg
- Economaidd
? Roedd gwladwriaethau masnach
yr Eidal
eisiau ehangu eu masnach ym
Mor y Canoldir
ar adeg pan oedd Mwslimiaid yn rheoli llawer o
borthladdoedd
strategol. Byddai ehangu eu masnach ym Mor y Canoldir yn golygu y byddai gwledydd Ewrop yn medru ehangu eu llwybrau masnach draw i’r Dwyrain Canol lle'r oedd modd iddynt gael mynediad at nwyddau moethus.
- Cymdeithasol
? Roedd y Croesgadau’n cynnig rhyddid cymdeithasol i gymdeithas a oedd wedi ei gorlwytho gan foneddigion heb dir. Roedd hyn o ganlyniad i’r drefn gyntafanedigaeth lle’r oedd y mab cyfreithiol hynaf yn etifeddu holl dir ei rieni. Roedd y Croesgadau’n cynnig cyfle i’r boneddigion hynny heb dir ennill tiroedd yn y Dwyrain Canol. Os oedd bonheddwr yn mynd ar groesgad byddai ei farchogion yn ei ddilyn i’r frwydr fel rhan o’u rhwymedigaethau
ffiwdal
.
- Crefyddol
? Yn 1095 rhoddodd y Pab Urban II araith ddramatig i Gyngor Clermont yn annog Cristnogion i fynd i ryfel er mwyn achub Jerwsalem rhag rheolaeth Fwslimaidd. Ymateb y dorf a oedd wedi ymgasglu oedd dechrau llafarganu
Deus vult
, (
ewyllys Duw yw hyn
). Roedd Cristnogion duwiol yn achub ar y cyfle i fynd ar bererindodau neu deithiau ysbrydol i’r lleoedd a oedd yn gysylltiedig ag Iesu Grist a Christnogaeth. Roedd ‘cymryd y Groes’ yn brawf perffaith o gariad a defosiwn Cristnogol at Dduw. Byddai’r croesgadwyr yn cael maddeuant am eu pechodau gan dreulio llai o amser ym mhurdan (lle byddai pechodau yn cael eu golchi cyn mynd i’r Nefoedd). Roedd adennill ac amddiffyn y Tir Sanctaidd ac amddiffyn Cristnogion (wrth ladd Mwslimiaid) yn cael eu hystyried yn ffyrdd o garu eich cymydog.
Yn gryno, roedd Cristnogion a Mwslimiaid yn cymryd rhan yn eiddgar mewn ymgyrchoedd i ladd a dinistrio ar raddfa enfawr, a hynny’n bennaf er mwyn cred a choncwest grefyddol mewn ymgais i sicrhau goruchafiaeth.
[1]
- Prif erthygl -
Y Groesgad Gyntaf
Ymladdwyd y Groesgad Gyntaf o
1095
i
1099
. Fe'i lansiwyd dan oruchwyliaeth a nawdd y
Babaeth
. Arweiniodd Pedr y Meudwy fyddin yn erbyn lluoedd Kilij Arslan,
swltan
Nise, ond cafodd ei drechu. Y flwyddyn ganlynol cipiodd y Croesgadwyr Nise a threchwyd Kilij ym mrwydr Doryle. Roedd
1098
yn flwyddyn gofiadwy i'r goresgynwyr; cipiwyd
Edessa
ac
Antioch
a chrewyd taleithiau Croesgadwrol ynddynt, a chafodd byddin Fwslimaidd dan arweinyddiaeth Karbouka o ddinas
Mosul
ei threchu. Yn
1099
cipiwyd
Caersalem
a
Thripoli
. Yn y Ddinas Sanctaidd ei hun coronwyd y fuddugoliaeth a chyflafan ddychrynllyd, gyda'r trigolion, yn
Iddewon
,
Cristnogion Uniongred
a
Mwslemiaid
yn ddi-wahan, yn cael eu targedu.
- Prif erthygl -
Yr Ail Groesgad
Cwymp talaith
Edessa
i'r Saraseniaid yn
1144
oedd y sbardun i'r Ail Groesgad, aflwyddiannus.
- Prif erthygl -
Y Drydedd Groesgad
Cwymp dinas
Caersalem
i
Saladin
yn
1187
oedd y sbardun a arweiniodd at gyhoeddi'r Drydedd Groesgad yn
1189
. Yr arweinwyr oedd
Phylip II Awgwstws o Ffrainc
, yr
Ymerawdwr Glan Rhufeinig
Ffrederic Barbarossa
a
Rhisiart Lewgalon o Loegr
. Parhaodd hyd
1192
.
- Prif erthygl -
Y Bedwaredd Groesgad
Yr amcan wrth lansio'r Bedwaredd Groesgad (
1202
-
1204
) oedd cipio'r
Aifft
, ond roedd yr amgylchiadau yn erbyn hynny, ac yn y diwedd anrheithiwyd un o ddinasoedd pwysicaf y byd Cristnogol gan y Croesgadwyr annisgybledig, sef
Caergystennin
.
- Prif erthyglau -
Y Bumed Groesgad
,
Y Chweched Groesgad
,
Y Groesgad Olaf
Methiannau trychinebus fu pob un o'r tair croesgad olaf yn ystod y
13g
. Erbyn
1291
roedd caer hollbwysig
Acre
ym Mhalesteina, amddiffynfa olaf y Croesgadwyr yn y
Lefant
, wedi cwympo, ac roedd y Croesgadau ar ben.
Agorodd y Croesgadau ffenestr newydd i'r Gorllewin ar ddysg y
Groegiaid
. Daeth llawysgrifau gweithiau gan
Aristotlys
ac eraill i orllewin Ewrop ac roedd hyn yn sail i'r adfywiad dysg a welwyd yn ystod y
Dadeni
Dysg. Cyfoethogwyd Ewrop gan
fathemateg
y Mwslimiaid, yn arbennig ym maes
algebra
(a oedd yn ddieithr i Ewropeaid cyn hynny). Daeth Ewrop hefyd dan ddylanwad syniadau’r Arabiaid am feddygaeth, gwyddoniaeth, athroniaeth a chelfyddyd. Daeth croesgadwyr a pherlysiau gwerthfawr yn ol gyda nhw o’r Dwyrain Canol hefyd, sef nytmeg a sinamon, siwgr a chotwm.
- ↑
"Datblygiad Rhyfela, tua 1250 hyd heddiw"
(PDF)
.
CBAC
. Cyrchwyd
28 Ebrill
2020
.
- Amin Maalouf,
Les croisades vues par les Arabes
(Paris, 1985; argraffiad newydd, Editions J'ai Lu, Paris, 2003). Golwg ar y Croesgadau o safbwynt yr
Arabiaid
).