한국   대만   중국   일본 
Concrit - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Concrit

Oddi ar Wicipedia
Gweithwyr yn trosglwyddo concrit o gorddwr sment i wilber er mwyn adeiladu system ddyfrhau yn Al Hamzah, Irac, yn 2007.
Neuadd Dinas Boston , a wneir yn bennaf o goncrit.

Defnydd adeiladu cyfansawdd yw concrit neu goncrid sy'n cynnwys yn bennaf cydgasgliad o ddefnyddiau man , sment , a d?r . Mae'r cydgasgliad yn aml yn cynnwys cerrig man megis calchfaen a gwenithfaen a defnyddiau eraill megis tywod . Mae'r sment yn glynu 'r defnyddiau man at ei gilydd, ac mae'r d?r yn galluogi'r cymysgedd i gael ei siapio ac yna ei galedu trwy broses hydradu . Defnydd caregog a chaled iawn yw'r canlyniad, sydd a chryfder cywasgol uchel ond cryfder tynnol is, ac felly'n aml caiff ei gyfnerthu gan ddefnyddiau cryf eu tyniant, megis dur .

Defnyddir concrit ar raddfa eang i adeiladu sylfeini , waliau , palmantau , pontydd , ffyrdd , argaeau , pibellau , ac ati.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: