Colin Jackson
|
---|
|
Ganwyd
| Colin Ray Jackson
18 Chwefror 1967
Caerdydd
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd
|
---|
Taldra
| 182 centimetr
|
---|
Pwysau
| 75 cilogram
|
---|
Gwobr/au
| CBE
|
---|
Chwaraeon
|
---|
Gwlad chwaraeon
| Cymru
,
y Deyrnas Unedig
|
---|
Cyn-athletwr sbrint a ras glwydi Cymreig yw
Colin Ray Jackson
CBE
(ganwyd
18 Chwefror
1967
). Ganwyd Jackson yng
Nghaerdydd
, a daw o dras
Jamaicaidd
,
Maroon
,
Taino
(Americanwyr brodorol), ac Albanaidd. Wedi ymddeol fel athletwr gweithiodd fel sylwebydd chwaraeon, ar y
BBC
yn bennaf. Daliodd record y byd ras clwydi 110 metr rhwng 1993 a 2006. Ef yw deilydd presennol record y byd ras glwydi 60 metr a deilydd record ras glwydi 110 metr
Gemau'r Gymanwlad
.
[1]
Mynychodd Jackson
Ysgol Uwchradd Llanedeyrn
lle bu'n chwarae
pel-droed
a
chriced
dros y sir, a
rygbi'r undeb
a
pel-fasged
dros yr ysgol.
O dan orychwyliaeth ei ffrind a'i hyffoddwr, Malcolm Rodger Arnold, dechreuodd ei yrfa fel athletwr
decathlon
addawol cyn newid i redeg y ras glwydi uchel. Yn Enillodd fedal arian yng
Ngemau'r Gymanwlad 1986
a medal arian yn y ras glwydi 110 metr yng
Ngemau Olympaidd 1988
tu ol i Roger Kingdom. Byddai ei yrfa fel athletwr yn para 15 mlynedd, a'r deg olaf fel deilydd record y byd. Bu'n Bencampwr y Byd ddwywaith, Pencampwr y Gymanwlad ddwywaith ac yn Bencampwr Ewropeaidd bedair gwaith ond dyma'r unig fedal Olympaidd iddo erioed ennill. Roedd wedi ei anafu pan redodd y ras glwydi 110 metr yng
Ngemau Olympaidd 1992
ac felly ni fedrodd orffen yn uwch na'r seithfed safle, daeth yn bwedwerydd yng
Ngemau Olympaidd 1996
, ac yn bumed yn
2000
.