한국   대만   중국   일본 
Coleg yr Iesu, Caergrawnt - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Coleg yr Iesu, Caergrawnt

Oddi ar Wicipedia
Coleg yr Iesu, Prifysgol Caergrawnt
Arwyddair Prosperum iter facias
Enw Llawn Coleg y Fendigaid Forwyn Fair, Sant Ioan yr Efengylydd a'r Forwyn Ogoneddus y Santes Radegunda y tu mewn i Dref a Phrifysgol Caergrawnt
Sefydlwyd 1496
Enwyd ar ol Capel yr Iesu
Lleoliad Jesus Lane, Caergrawnt
Chwaer-Goleg Coleg yr Iesu, Rhydychen
Prifathro Ian White
Is‑raddedigion 489
Graddedigion 270
Gwefan www.jesus.cam.ac.uk
Gweler hefyd Coleg yr Iesu (gwahaniaethu).

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg yr Iesu ( Saesneg : Jesus College ). "Coleg y Fendigaid Forwyn Fair, Sant Ioan yr Efengylydd a'r Forwyn Ogoneddus y Santes Radegunda y tu mewn i Dref a Phrifysgol Caergrawnt" yw ei enw llawn; mae ei enw cyffredin yn dod o enw ei gapel, Capel yr Iesu.

Capel yr Iesu [ golygu | golygu cod ]

Sefydlwyd Capel yr Iesu ym 1157 a chafodd ei gwblhau ym 1245. Credir mai'r capel yw adeilad hynaf y brifysgol sydd yn dal mewn defnydd. Yn wreiddiol roedd yn Gwfaint Benedictaidd y Santes Fair a'r Santes Radegunda, a gafodd ei ddiddymu gan John Alcock , Esgob Ely yn y 15g.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaergrawnt . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .