Mae
Coleg Sir Benfro
ac ar lafar,
Coleg Penfro
(Saesneg:
Pembrokeshire College
) yn darparu addysg alwedigaethol amser llawn a rhaglenni Safon Uwch ar gyfer myfyrwyr 14-19 oed ac amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion a chyflogwyr. Cyfanswm y myfyrwyr cofrestredig mewn addysg amser llawn a rhan-amser yw tua 14,500. Mae'r Coleg hefyd yn cynnig NVQs a rhaglenni achrededig eraill, yn ogystal a Chymhwyster Bagloriaeth Cymru.
[1]
Mae rhai cyrsiau yn cael eu hariannu gan
Lywodraeth Cymru
. Mae'n aelod o rwydwaith y sector,
ColegauCymru
.
Lleolir y Coleg ym
Merlin's Bridge
,
Hwlffordd
sef, prif dref
Sir Benfro
. Pennaeth y Coleg yw Dr Barry Walters. Arferai'r coleg fod tu ol i lyfrell y dref a Dew St a Barn St ond mae'r safle bellach yn ganolfan gymunedol a chlwb ieuenctid.
Mae ffreutur y Coleg, a adwaenir fel 'the refectory', wedi'i ryddfreinio i Chartwell's.
Ceir sectorau arbennig i'r campws sef: Atriwm, Gweithdai, Ystafelloedd Celf, Bwyty, Salonau a Meithrinfa 'Bright Start'.
[2]
Ceir amrywiaeth eang o gyrsiau: ar-lein, Datblygu Staff, Dysgwyr sy'n Oedolion, Lefel Uwch, Prentisiaethau, ac Ymadawr yr Ysgol.
[3]
Ymysg y meysydd a'r pynciau mae:
- Academi Sgiliau Bywyd
- Addysgu ac Addysg
- Adeiladu a Chrefftau
- Anifeiliaid Cefn Gwlad a'r Amgylchedd
- Busnes
- CDP
- Celfyddydau
- Chwaraeon, Ffitrwydd a Gwasanaethau
- Clybiau Iau
- Cyfrifiadura
- Cymunedol
|
- Dyniaethau ac Ieithoedd
- Ffioedd
- Gwyddoniaeth a Mathemateg
- Iechyd a Diogelwch
- Iechyd a Gofal Plant
- Lefel-A
- Lletygarwch a Thwristiaeth
- Peirianneg
- TGAU
- Trin Gwalt a Harddwch
- Ynni
|
Mae'r Coleg yn cynnwys Academi Chwaraeon sy'n darparu hyfforddiant mewn
pel-droed
,
rygbi
a
phel-rwyd
.
Er mai Saesneg yw prif iaith weinyddol a dysgu'r Coleg, ceir peth dysgu yn y Gymraeg. Gellir sefyll arholiadau TGAU Cymraeg iaith Gyntaf, a Mathemateg, Lefel A Cymraeg Ail Iaith, Bagloriaeth Gymru a chefnogaeth arall. Ceir elfennau Cymraeg mewn cyrsiau fel Gofal Iechyd
[4]
a Phrentisiaethau megis Gosodiadau Trydanol sydd wedi ei ddatblygu a hyrwyddo ar y cyd gyda'r
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
.
[5]