Mae
Coleg Prifysgol Llundain
(
Saesneg
:
University College London
neu
UCL
) yn rhan o
Brifysgol Llundain
. Dyma'r sefydliad addysg uwch mwyaf yn Llundain a'r sefydliad mwyaf ar gyfer myfyrwyr a gradd yn y Deyrnas Unedig.
[1]
Mae'n aelod o'r
League of European Research Universities
.
Fe'i sefydlwyd ar
11 Chwefror
1826
, yn seiliedig ar syniadau radical yr athronydd
Jeremy Bentham
. Hon oedd y brifysgol gyntaf yn Lloegr i dderbyn myfrywyr nad oedd yn aelodau o
Eglwys Loegr
, a'r cyntaf i dderbyn merched. Lleolir ei phrif adeilad, a godwyd i gynlluniau neo-glasurol y pensaer
William Wilkins
, yn ardal
Bloomsbury
yng nghanol Llundain.
Mae ysgol gelf y Slade, lle astudiodd
Gwen John
ac
Augustus John
ymhlith nifer o arlunwyr eraill, yn rhan o Goleg Prifysgol Llundain. Fe'i sefydlwyd ym 1871 gyda rhodd gan y cyfreithiwr Felix Slade.
| Oriel Flaxman yn Adeilad Wilkins
|
| Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain
|
|