Chwyldro Gwyddonol
|
Enghraifft o'r canlynol
| oes
|
---|
Dechreuwyd
| 1543
|
---|
Daeth i ben
| 1687
|
---|
Lleoliad
| Ewrop
|
---|
Cysyniad a ddefnyddir gan haneswyr i ddisgrifio datblygiad gwyddoniaeth fodern yn ystod y
Cyfnod Modern Cynnar
yw
Chwyldro Gwyddonol
.
Cafodd syniadau am y byd materol eu trawsnewid gan ddatblydiadau ym meysydd
mathemateg
,
ffiseg
,
seryddiaeth
,
bioleg
(gan gynnwys anatomeg dynol) a
chemeg
.
Yn aml, rhoddir man cychwyn y chwyldro gwyddonol fel
1543
, pan gyhoeddwyd
De Revolutionibus Orbium Coelestium
gan
Nicolaus Copernicus
.
Dyma rai o gyhoeddiadau pwysicaf y Chwyldro Gwyddonol.
- 1543
Nicolaus Copernicus
,
De Revolutionibus Orbium Coelestium
("Yngl?n a chylchdroadau sfferau'r nef") Mae'n cyflwyno theori heliosentrig ei theori i esbonio symudiadau'r planedau yn lle system geosentrig
Ptolemi
.
- 1543
Andreas Vesalius
,
De Humani Corporis Fabrica
("Yngl?n a ffurfiad y corff dynol") Mae'n gwrthwynebu damcaniaethau ffisiolegol
Galen
.
- 1753
Tycho Brahe
,
De Nova Stella
("Yngl?n a'r seren newydd") Mae'n gwrthbrofi athrawiaeth
Aristoteles
nad yw'r sfferau wybrennol byth yn newid.
- 1600
William Gilbert
,
De Magnete, Magneticisque Corporibus, et de Magno Magnete Tellure
("Yngl?n a'r magnet, cyrff magnetig, a'r magnet mawr y Ddaear") Mae'n sefydlu sylfeini theori
magneteg
a
thrydan
.
- 1620
Francis Bacon
,
Novum Organum
("Yr offeryn newydd") Mae'n cyflwyno system newydd o
resymeg
fel gwelliant i system
chyfresymol
Aristoteles.
- 1609
Johannes Kepler
,
Astronomia Nova
("Y seryddiaeth newydd") Mae'n cyflwyno'r cyntaf a'r ail o'r tair
deddf mudiant planedau Kepler
.
- 1610
Galileo Galilei
,
Sidereus Nuncius
("Y negesydd serennog") Mae'n cyflwyno'r arsylwadau seryddol cyntaf a wneir gan ddefnyddio
telesgop
.
- 1619 Johannes Kepler,
Harmonices Mundi
("Cytgord y byd") Mae'n cyflwyno'r drydedd
ddeddf mudiant planedau Kepler
.
- 1623 Galileo Galilei,
Il Saggiatore
("Y profwr")
- 1627 Johannes Kepler,
Tabulae Rudolphinae
("Tablau Rudolph")
- 1628
William Harvey
,
De Motu Cordis
("Yngl?n a symud y gwaed") Mae'n dangos bod
gwaed
yn cylchredeg o gwmpas y corff
- 1632 Galileo Galilei,
Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo
("Deialog yngl?n a dwy brif system y byd") Mae'n cymharu
cosmoleg
newydd Copernicus a chosmoleg hynafol Ptolemi.
- 1637
Rene Descartes
,
Discours de la methode
("Trafodiaeth ar y method") Mae'r llyfr yn sefydlu sail ddamcaniaethol ar gyfer y
dull gwyddonol
.
- 1661
Robert Boyle
,
The Sceptical Chymist
("Y cemegydd sgeptigol") Mae'n cyflwyno'r ddamcaniaeth bod mater yn cynnwys atomau a chlystyrau o atomau yn symud.
- 1665
Robert Hooke
,
Micrographia
Dyma'r cyhoeddiad cyntaf o luniadau o bryfed, planhigion ac eitemau eraill a welir trwy
feicrosgop
- 1687
Isaac Newton
,
Philosophiae Naturalis Principia Mathematica
("Egwyddorion mathemategol gwyddoniaeth") Mae'n sefydlu holl egwyddorion pwysicaf
mecaneg clasurol
. gan gynnwys
deddfau mudiant Newton
a
deddf disgyrchedd cyffredinol Newton
- 1690
Christiaan Huygens
,
Traite de la Lumiere
("Traethawd yngl?n a goleuni") Mae'n dadlau bod
goleuni
'n cael eu gwneud o
donnau
.
- 1704 Isaac Newton,
Opticks
("Opteg") Mae'n dadlau bod goleunu'n cael ei wneud o
ronynnau
, ac mae'n cynnwys
sbectrwm
o liwiau