Mae
chwaraeon modur
yn cynnwys yr holl weithgareddau chwaraeon lle mae cerbydau modur yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys rasio ar bedair olwyn (
rasio ceir
), rasio ar ddwy olwyn (
rasio beiciau modur
), gyrri ar drac rasio (e.e.
Fformiwla Un
), gyrri traws gwlad (e.e.
ralio
), gyrri oddi ar y ffordd (e.e.
motocross
).
Y prif gorff sy'n rheoli rasio ar bedair olwyn yw
Federation Internationale de l'Automobile
(FIA). Yr un sy'n rheoli rasio ar ddwy olwyn yw
Federation Internationale de Motocyclisme
(FIM).