한국   대만   중국   일본 
Chartres - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Chartres

Oddi ar Wicipedia
Chartres
Arwyddair Servanti civem qverna corona datvr  Edit this on Wikidata
Math cymuned   Edit this on Wikidata
Poblogaeth 38,447  Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Jean-Pierre Gorges  Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2  Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Sir arrondissement of Chartres, canton of Chartres-Nord-Est, canton of Chartres-Sud-Est, canton of Chartres-Sud-Ouest, canton of Mainvilliers, Eure-et-Loir   Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ffrainc  Ffrainc
Arwynebedd 16.85 km²  Edit this on Wikidata
Uwch y mor 142 metr  Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Eure   Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Champhol, Mainvilliers, Luce, Luisant, Le Coudray, Gellainville, Nogent-le-Phaye, Gasville-Oiseme, Leves  Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 48.4467°N 1.4883°E  Edit this on Wikidata
Cod post 28000  Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Chartres  Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Jean-Pierre Gorges  Edit this on Wikidata
Map

Dinas hanesyddol yng ngogledd Ffrainc yw Chartres , prifddinas departement Eure-et-Loir , sy'n gorwedd 96 km i'r de-orllewin o ddinas Paris . Fe'i lleolir ar fryn ar lan Afon Eure .

Chartres oedd prif dref llwyth y Carnutes , ac yn y cyfnod Rhufeinig fe'i gelwid yn Autricum , o enw'r afon Autura (Eure), ac yna civitas Carnutum . Daw'r enw "Chartres" o enw'r Carnutes. Llosgwyd y ddinas gan y Normaniaid yn 858 . Yn y Canol Oesoedd roedd yn brif dref adral Beauce. Cafodd ei chipio gan y Saeson yn 1417 , ond fe'u gyrrwyd allan yn 1432 . Yn ystod Rhyfeloedd Crefyddol Ffrainc, cipiwyd hi gan Henri IV yn 1591 , a choronwyd ef yno dair blynedd yn ddiweddarach. Yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a Prwsia , fe'i cipiwyd gan yr Almaenwyr yn 1870 .

Adeilad pwysicaf y ddinas yw Eglwys Gadeiriol Chartres , sy'n cael ei hystyried yr enghraifft orau o Eglwys Gadeiriol yn yr arddull gothic yn Ffrainc, ac efallai yn y byd. Enwyd yr eglwys fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Eglwys Gadeiriol Chartres
Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .