Charlie Parker
|
---|
|
Ganwyd
| 29 Awst 1920
Madrid
,
Dinas Kansas, Kansas
|
---|
Bu farw
| 12 Mawrth 1955
o
niwmonia
Dinas Efrog Newydd
,
Manhattan
|
---|
Label recordio
| Verve Records, Savoy Records, Mercury Records, Dial Records
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
|
---|
Alma mater
| - Lincoln High School
- Lincoln College Preparatory Academy
|
---|
Galwedigaeth
| chwaraewr sacsoffon, cerddor jazz,
cerddor
,
cyfansoddwr
|
---|
Arddull
| jazz
, bebop
|
---|
Prif ddylanwad
| Buster Smith
|
---|
Priod
| Chan Parker
|
---|
Gwobr/au
| Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy Chwaraewyr Jazz Unigol, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Kansas Music Hall of Fame
|
---|
Gwefan
| https://charliebirdparker.com/
|
---|
Sacsoffonydd
jazz
Americanaidd
oedd
Charlie Parker
(yn gywir,
Charles Parker Jr.
;
29 Awst
1920
?
12 Mawrth
1955
). Fe'i adnabuwyd hefyd gan y llysenwau
Yardbird
a
Bird
.
[1]
Ef yw ffigwr canolog yr is-arddull o fewn jazz sy'n dwyn yr enw
bebop
.
[2]
Ganwyd Parker yn
Kansas City, Kansas
, a chafodd ei fagu yn
Kansas City, Missouri
, unig blentyn Charles Parker ac Adelaide "Addie" (Bailey), a oedd o gefndir cymysg du a
Choctaw
.
[3]
Dechreuodd chwarae'r
sacsoffon
yn 11 oed, gan ymuno a band ei ysgol yn 1914 ar ol rhentu offeryn. Roedd ei dad yn bianydd ac yn ddawnsiwr a rhoddodd rhywfaint o arweinyddiaeth gerddorol i'r Parker ifanc.
O'r dechrau, bu Parker yn gweithio'n galed iawn ar ei gerddoriaeth: honnodd mewn cyfweliad iddo ymarfer am hyd at 15 awr y diwrnod am gyfnod o dair i bedair blwyddyn.
[4]
Chwaraeodd mewn nifer o fandiau yn y 30au hwyr a'r 40au cynnar, gan gynnwys band
Earl Hines
, lle'r oedd yn chwarae gyda'r trwmpedwr
Dizzy Gillespie
a fyddai'n gydymaith pwysig i Parker yn natblygiad bebop.
Yn ystod y 40au cynnar, roedd Parker yn un o gr?p o gerddorion yn gynnwys Gillespie,
Thelonious Monk
ac eraill a ddatblygodd arddull newydd o chwarae jazz a ddaeth i ddwyn yr enw
bebop
. Arddull oedd hon a oedd yn gyflymach ac yn fwy cymhleth o na
swing
o ran harmoniau a melodi, gan gynnig posibiliadau ehangach ar gyfer byrfyfyrio gan alw am feistrolaeth o'r offeryn. Er yn ddadleuol iawn ymysg beirniaid ar y dechrau, daeth bebop yn gynsail i jazz modern am weddill yr 20g, a bu arddull Parker o chwarae'r sacsoffon yn benodol a jazz yn gyffredinol yn ddylanwad enfawr ar genhedlaeth o gerddorion.
Recordiodd Parker nifer fawr o recordiau gyda cherddorion gan gynnwys Gillespie, Monk,
Bud Powell
a
Miles Davis
. Yn enwedig tua diwedd ei yrfa, roedd ei recordiau yn gynyddol lwyddiannus o ran gwerthiant; fodd bynnag, bu Parker yn dioddef drwy ei yrfa o drafferthion ariannol, yn bennaf oherwydd ei natur annibynadwy a'i gaethineb i
heroin
, a gyfrannodd at ei farwolaeth yn 1955 yn 34 oed yn unig. Dywedodd
Miles Davis
ohono,
"You can tell the history of jazz in four words:
Louis Armstrong
. Charlie Parker."
[5]
- ↑
"Charlie Parker Biography ? Facts, Birthday, Life Story"
. Biography.com
. Cyrchwyd
Chwefror 17,
2014
.
- ↑
"Charlie Parker"
. The New Grove Dictionary of Jazz
. Cyrchwyd
Ebrill 23,
2012
.
- ↑
Dictionary of World Biography: The 20th century, O-Z
gan Frank Northen Magill
- ↑
"Paul Desmond interviews Charlie Parker"
.
puredesmond.ca
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 6 Gorffennaf, 2011
. Cyrchwyd
March 1,
2011
.
- ↑
Griffin, Farah Jasmine; Washington, Salim (2008).
Clawing at the Limits of Cool: Miles Davis, John Coltrane, and the Greatest Jazz Collaboration Ever
. New York: Thomas Dunne Books. t.
237
.