Mae
Ceuta
yn diriogaeth Sbaenaidd 19 km², sy'n rhan o ranbarth
Andalucia
yn
Sbaen
, ar arfordir
Gogledd Affrica
. Mae'n wynebu'r
Mor Canoldir
i'r gogledd ac yn ffinio a
Moroco
(rhanbarth
Tanger-Tetouan
) yn y de. Mae gan Ceuta, ynghyd a'r dref o'r un enw sy'n brifddinas iddi (
Arabeg
Sebta
o'r
Lladin
Septem
), boblogaeth o 70,000.
Yn ol traddodiad, ymwelodd
Ercwlff
(Heracles) ac
Odysseus
(Ulusses) yma. Roedd yn borthfa filwrol dan y
Rhufeiniaid
. Fe'i rheolwyd gan yr
Ymerodraeth Fysantaidd
ar ol hynny ac yna yn
931
fe'i meddianwyd gan reolwyr
Umayyad
newydd Andalucia. Roedd y bardd
Ibn Sahl o Sevilla
yn Ceuta rhwng
1248
a
1250
yng ngwasanaeth y llywodraethwr lleol. Cipiodd
Siams I o Aragon
y ddinas yn
1309
ac yn
1415
fe'i cipwyd gan
Portiwgal
. Rhwng
1580
a
1640
roedd dan reolaeth Sbaen a Phortiwgal gyda'i gilydd (roedd y ddwy wlad hynny wedi'u huno yn y cyfnod hwnnw). Pan dorrodd Portiwgal allan o'r undeb meddiannodd y Sbaenwyr y diriogaeth.
Treuliodd y marchog Almaenig
Jorg von Ehingen
tua saith mis yn Ceuta yn
1455
-
1456
pan fu'r dref gaerog dan warchae gan y Morociaid.