- Gweler hefyd
Castell-nedd (gwahaniaethu)
.
Tref a
chymuned
ym mwrdeistref sirol
Castell-nedd Port Talbot
,
Cymru
, yw
Castell-nedd
[1]
(Saesneg:
Neath
). Mae'n gorwedd ar lan chwith
Afon Nedd
. Roedd ganddi boblogaeth o 19,258 yn 2011.
[2]
Man croesi'r afon oedd
Castell-nedd
i ddechrau, ac ymsefydlodd pobl yma yng nghyfnod y
Rhufeiniaid
. Ond at dri lle yn unig yng Nghymru y mae'r llenor Rhufeinig
Tacitus
yn cyfeirio atynt yn ei
Historiae
(
Hanes
), ac mae Castell-nedd yn un ohonynt.
Ceir tystiolaeth am aneddiadau hynafol yn y bryniau sy'n amgylchynu'r dref, ac mae'n debyg mai aneddiadau
Celtaidd
ydynt ond nid ydynt wedi cael eu dyddio. Canfuwyd gweddillion dynol 25 km i ffwrdd yn
Ogof Paviland
[3]
ar
Benrhyn G?yr
, yn dyddio o 24,000 CC, gan brofi bod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod
Oes yr Ia
ddiwethaf. Er y'i hadnabyddir fel "
Arglwyddes Goch Paviland
", gweddillion dyn nid menyw ydy.
[4]
Roedd Castell-nedd wedi ei leoli ar ymyl deheuol y cynfas o ia, ac roedd Glyn Nedd yn ddyffryn rhewlifol. Daeth llystyfiant ac anifeiliaid i'r ardal yn dilyn enciliad y rhew tua 15,000 o flynyddoedd yn ol.
Roedd trigolion Castell-nedd cyn dyfodiad y Rhufeniaid yn perthyn i lwyth Celtaidd y
Silwriaid
.
Nidum
yw'r enw ar y gaer Rufeinig a ganfuwyd yn agos i'r ystad dai, a adnabyddir fel
Roman Way
, ar lan orllewinol
Afon Nedd
. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae
Ysgol Gyfun D?r-y-Felin
heddiw.
[5]
Mae adfeilion
castell
bychan
Normanaidd
, sef y
Castell Nedd
gwreiddiol, ger canol y dref.
Roedd yn dref farchnad, a chychwynodd diwydiant newydd yna yn ystod y 18g, sef haearn, dur ac alcam. Mwyngloddid llawer o lo yn yr ardal, a daeth y dref yn ganolfan bwysig i gludiant ar reilffyrdd a chamlesi. Mwyngloddid hefyd silica. Adeiladwyd goethd? i betrol yn yr 20ed ganrif.
Roedd y dref yn borthladd hyd yn ddiweddar.
Mae atyniadau i ymwelwyr yn cynnwys
Abaty Nedd
, Parc
Y Gnoll
, a'r farchnad.
Rhannau amlwg o'r dref yw
Tonna
i'r gogledd,
Cimla
i'r dwyrain,
Bryncoch
a
Sgiwen
i'r gorllewin a
Llansawel
i'r de.
Yng
nghyfrifiad 2011
roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
[6]
[7]
[8]
[9]
Cyfrifiad 2011
|
|
|
|
Poblogaeth cymuned Castell-nedd (pob oed) (19,258)
|
|
100%
|
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Castell-nedd) (1,666)
|
|
9%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
19%
|
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Castell-nedd) (16895)
|
|
87.7%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
73%
|
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Castell-nedd) (3,718)
|
|
43.2%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
67.1%
|
Cynhaliwyd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
yng Nghastell-nedd ym
1918
,
1934
a
1994
. Am wybodaeth bellach gweler:
Gefeilldrefi Castell-Nedd
[
golygu
|
golygu cod
]