한국   대만   중국   일본 
Castell - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Castell

Oddi ar Wicipedia
Castell
Enghraifft o'r canlynol building type  Edit this on Wikidata
Math amddiffynfa   Edit this on Wikidata
Yn cynnwys cwrt mewnol, Gorthwr , mur amddiffynnol  Edit this on Wikidata
Gwladwriaeth yr Almaen   Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Castell (benthyciad o'r Lladin castellum ; Llydaweg Canol castell , Gwyddeleg Canol caisel . Lluosog Cestyll. ) yn adeilad sydd wedi'i amddiffyn yn gryf. Math arbennig o amddiffynfa a ddatblygwyd yn yr Oesoedd Canol yw castell, ond mae ei gynseiliau'n gorffwys yng nghyfnod pobl fel y Celtiaid yn Oes yr Haearn a godai fryngaerau niferus, a'r Rhufeiniaid a godai gaerau ledled Ewrop a'r Mor Canoldir . Ceir traddodiad o godi cestyll mewn nifer o wledydd eraill hefyd, er enghraifft yn Tsieina a Siapan .

Datblygiad cestyll yn Ewrop yr Oesoedd Canol [ golygu | golygu cod ]

Castell B?dzin, Gwlad Pwyl

Dros y canrifoedd newidiodd y cestyll o wneuthuriad pren i gestyll cerrig, ac yn ddiweddarach, o fod yn amddiffynfa i fod yn blas neu gartref. Bellach maen nhw wedi newid o fod yn adeiladau milwrol i fod yn henebion ac yn atyniadau twristaidd.

Ceir gwahanol fathau o gestyll wrth gwrs, megis Cestyll y Normaniaid a'r Cestyll Cymreig . Llefydd milwrol ac amddiffynfeydd oedd cestyll yn yr Oesoedd Canol , yn aml ar dir uchel gyda muriau trwchus a thyredau uchel, ac yn aml hefyd rhagfuriau a ffos o gwmpas. Byddai'r ffenestri yn gul a'r drysau yn drymion. Roedd y castell yn rheolir dref hefyd yn aml, gyda mur o gwmpas y dref yn ogystal a barbican , hefyd. I fynd i mewn i'r castell, yr oedd rhaid mynd dros bont godi a thrwy borthdy cryf a chlwydi a phorthcwlis . Roedd donjon (carchar dan ddaear) mewn llawer o'r cestyll. Weithiau byddai'r castell dan warchae am gyfnod hir a byddai rhaid ildio oherwydd diffyg bwyd.

Roedd y castell yn lle i drigo yn ogystal a bod yn amddiffynfa. Roedd ward fewnol, llety, ystafelloedd byw ac siambrau cysgu, rhai ohonyn nhw'n gyfforddus iawn, cegin , bwtri i gadw gwin neu gwrw , canolfan weinyddol a chapel . Roedd stablau i'r meirch ac ysguborau i gadw bwyd iddynt. Ond y peth pwysicaf i gyd oedd ffynnon neu ffynhonnell d?r arall i gadw'r amddiffynwyr yn fyw adeg gwarchae . Gwarchae oedd un o'r bygythiadau gwaethaf i gastell a dyna pam yr oeddent yn ceisio bod mor hunangynhaliol a phosibl.

Roedd hi'n anodd i godi'r cestyll hyn weithiau am eu bod yn aml yn cael eu codi ar dir estron. Yn achos y cestyll Seisnig yng Nghymru yr oedd rhaid cael gweithwyr a chrefftwyr o Loegr neu gyfandir Ewrop ac fe'i gorfodid i adael eu cartrefi i weithio yng Nghymru, efallai am flynyddoedd.

Roedd rhaid codi llawer o arian i godi'r cestyll hefyd. Y goruchwylwyr oedd yn gofalu am yr ochr ariannol ac yn talu'r gweithwyr. Y pensaer oedd yn gyfrifol am gynllunio'r castell a dewis safle i'w adeiladu. Y nesaf at y pensaer mewn pwysigrwydd oedd y saer maen . Roedd yn bwysig cael chwarel yn gyfleus i gael meini i'r muriau. Byddent yn hollti'r cerrig yn y chwarel i arbed cludo cerrig diwerth heb eisiau. Roedd rhaid cael cerrig da a fyddai'n gorwedd yn esmwyth ar ei gilydd er mwyn gwneud y muriau allanol yn gadarn.

Cestyll Cymru [ golygu | golygu cod ]

Castell Cricieth
Gweler hefyd Cestyll y Tywysogion Cymreig a Rhestr cestyll Cymru .

Cafodd nifer o gestyll eu codi gan y tywysogion Cymreig , yn arbennig yn y cyfnod rhwng yr 11g a thrydydd chwarter y 13g . Yn eu plith mae Castell Dolbadarn , Castell Dolwyddelan , Dinas Emrys , Castell y Bere , Castell Cricieth , Castell Carreg Cennen , Castell Dinefwr , Castell y Dryslwyn , a Castell Dinas Bran .

Adeiladwyd llawer o gestyll yng Nghymru yn y drydedd ganrif ar ddeg gan y Normaniaid a hefyd gan y Saeson, yn bennaf gan Edward I o Loegr , er mwyn cadarnhau ei goncwest, megis Castell Harlech , Castell Conwy a Chastell Caernarfon yng Ngwynedd , neu Castell Biwmares yn Ynys Mon a Chastell Rhuddlan yn Y Berfeddwlad ( Clwyd ). Y rhain oedd y Cylch Haearn o gestyll o amgylch Gogledd Cymru .

Chwiliwch am castell
yn Wiciadur .