Disgrifia'r gair
casineb
teimlad dwys o anhoffter. Gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau, o gasineb tuag at wrthrychau neu anifeiliaid, i gasineb o bobl eraill, gr?piau cyfan o bobloedd, neu bobl yn gyffredinol.
Cynigia athronwyr sawl diffiniad dylanwadol o gasineb. Ystyriai
Rene Descartes
casineb fel ymwybyddiaeth o rhywbeth gwael a'r awydd i ddianc rhagddo. Diffiniodd
Baruch Spinoza
casineb fel math o boen a achosir gan achos neu achosion allanol. Gwelai
Aristotle
casineb fel awydd nad yw amser yn gwella i ddistrywio gwrthrych. Ar y llaw arall, credai
David Hume
fod casineb yn deimlad na sydd yn lleihau ac nad oes modd diffinio'r teimlad o gwbl.