Carnifal Notting Hill

Oddi ar Wicipedia
Y "Notting Hill Carnival" , Llundain.

Cynhelir Carnifal Notting Hill yn Awst, dros gyfnod o dridiau: ar y Sadwrn, y Sul a'r Llun (G?yl y Banc) dilynol a hynny yn ardal Notting Hill o Lundain ym Mwrdeisdref Kensington a Chelsea. Mae'n ddigwyddiad blynyddol, ers 1965, [1] a chaiff ei drefnu gan y boblogaeth Garibiaidd , llawer ohonynt wedi byw yma ers y 1950au. Yn ei anterth, ymwelodd 1.5 miliwn o bobl, sy'n ei wneud yn un o wyliau mwyaf Ewrop . Roedd yma garnifal yn 1959, yn Neuadd y Dref, St Pancras er mwyn ceisio llesteirio drwg deimlad rhwng gwahanol hil; fe'i trefnwyd gan Claudia Jones a adnabyddir heddiw fel "Mam y Carnifal". Er i'r ?yl hon fod yn llwyddiannus, fe'i cynhaliwyd y tu fewn i adeilad am nifer o flynyddoedd. Yn 1966 sefydlwyd carnifal arall yma i ddathlu syniadau'r hipi ac mewn parti stryd aeth y band dur Russell Henderson am dro drwy'r strydoedd. Cyfuniad o'r tri yma ydy'r carnifal presennol, mewn gwirionedd.

Man cychwyn traddodiadol yr ?yl ydy Emslie Horniman's Pleasance sydd yn Ladbroke Grove . [2] [3] Yn y blynyddoedd cynnar, gan nad oedd swyddfa ganolog, gweithredai'r Mangrove Restaurant yn Notting Hill, fel pencadlys, dan drefniant y g?r o Drinidad , Frank Crichlow. [4]

Terfysg 1976 [ golygu | golygu cod ]

Cafwyd cryn sylw yn y wasg i derfysg pan ymladdwyd rhai brwydrau stryd gyda'r heddlu yng Ngharnifal 1976, [5] wedi i'r heddlu arestio person am ddwyn. Anafwyd dros gant o'r heddlu yn y terfysgoedd a ddilynodd hynny. [6]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1Xtra ? Black History. "1965" . BBC . Cyrchwyd 17 Chwefror 2009 .
  2. "Emslie Horniman's Pleasance" . The Royal Borough of Kensington and Chelsea . Cyrchwyd 2010-12-03 .
  3. "Emslie Horniman's Pleasance: Enchanted gardens" . unlike.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-24 . Cyrchwyd 2010-12-03 .
  4. Abner Cohen (1993). Masquerade politics: explorations in the structure of urban cultural movements . University of California Press. t. 109. ISBN   978-0-520-07838-3 . Cyrchwyd 19 Awst 2011 .
  5. Griffiths, Emma (25 Awst 2006). "Remembering the Notting Hill riot" . BBC NEWS . Cyrchwyd 17 Chwefror 2009 .
  6. " Notting Hill Carnival ends in riot " . BBC News. 30 Awst 1976 . Cyrchwyd 7 Mehefin 2009 .

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]