Cyhoeddwr, awdures a beirniad o Awstralia oedd Y Fonesiges Carmen Therese Callil , DBE ( 15 Gorffennaf 1938 – 17 Hydref 2022 ). Treuliodd y rhan fwyaf o'i gyrfa yn y Deyrnas Unedig. Sefydlodd Virago Press yn 1973. Derbyniodd Fedal Benson gan y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn 2017.
Cafodd ei geni ym Melbourne , yn ferch i'r gyfreithiwr ac ysgolhaig Frederick Alfred Louis Callil a'i wraig Lorraine Clare Allen. [1] Cafodd ei addysg mewn dwy ysgol gwfaint yn Awstralia: Star of the Sea a Neuadd Loreto Mandeville. [2] Graddiodd o Brifysgol Melbourne, yna daeth i Ewrop. Roedd hi'n byw yn Llundain ers 1964.