Cymuned
(
commune
) yw
Capbreton
(
Gasgwyneg
ac
Ocsitaneg
:
Cap Berton
, ynganer 'Cap-bertou'), a leolir ar lan
Cefnfor Iwerydd
yn
departement
Landes
yn rhanbarth
Aquitaine
. Poblogaeth: 7,565 (2006).
Sefydlwyd tref fechan ar y safle yn y 12g. Mae'n hen borthladd pysgota sydd wedi troi'n ganolfan gwyliau boblogaidd. Ceir
marina
mawr yno.
Daw enw Ffrangeg y dref (hen ffurf:
Cap-Breton
) o'r enw Gasgwyneg, gyda'r 'r' yn symud trwy
affeithiad
. Er gwaethaf yr enw, does dim cysylltiad a
Llydaw
(
Bretagne
) felly. Am gyfnod byr yn ystod y
Chwyldro Ffrengig
cafodd yr enw gwneud
Cap-
Brutus
, ar ol y gwleidydd Rhufeinig, un o arwyr y Chwyldro.