Cyfraith
sy'n deillio o awdurdod
eglwysig
yw
cyfraith ganonaidd
neu
gyfraith ganon
(
Lladin
:
jus canonicum
) sy'n berthnasol i gyfundrefn a disgyblaeth yr eglwys a hefyd materion ffydd. Cedwir cyfreithiau o'r fath gan
yr Eglwys Gatholig
neu Babyddol, yr
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol
, ambell eglwys annibynnol yn y
traddodiad Dwyreiniol
, a'r
Cymundeb Anglicanaidd
.
[1]
Sail y gyfraith ganonaidd yw rheolau ffurfiol yr eglwys, megis gorchmynion ac ordeiniadau'r cynghorau a'r esgobion, yn ogystal a defodau ac agweddau o
ddeddf Duw
a ymgorfforir i'r
deddfau cyfundrefnol
. Er ei bod yn aml yn adlewyrchu rhywfaint o
ddogma
, nid yw'r gyfraith ganonaidd yn anhyblyg: bu'n rhaid iddi ymateb i ddadleuon athrawiaethol ac ymaddasu i newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd.
Gellir olrhain y gyfraith canonaidd yn ol at yr eglwys
Gristnogol
gynnar. Tua'r 4g, datblygodd yn system gyfreithiol aeddfed dan ysbrydoliaeth y
gyfraith sifil Rufeinig
. Yn y 5ed, 6ed a 7ed ganrif dechreuodd ambell gymunfa ddwyreiniol hollti ar reolaeth yr eglwys yng
Nghaergystennin
gan sefydlu cyfraith ganonaidd annibynnol ac yn adlewyrchu meddylfryd cenedlaetholgar. Roedd cyfraith ganonaidd Eglwys y Gorllewin ac Eglwys y Dwyrain bron yn unfath nes
y Sgism Fawr
ym 1054. Ers hynny datblygodd y gyfraith ganonaidd Babyddol yn ystod oes tra-arglwyddiaeth yr Eglwys Gatholig yng ngorllewin Ewrop, hyd
y Diwygiad Protestannaidd
. Gwrthododd y mwyafrif o Brotestaniaid y gyfraith Babyddol, ond cadwodd
Eglwys Loegr
y cysyniad gan ddatblygu cyfraith ganonaidd ei hunan, a dderbynir heddiw gan eglwysi'r Cymundeb Anglicanaidd.