Saif
Canolfan Grefftau Rhuthun
yn nhref
Rhuthun
,
Sir Ddinbych
. Mae ganddi ddeg stiwdio, a chrefftwr ym mhob un wrth eu gwaith yn chwythu gwydr, atgyweirio dodrefn, trin clai ayb.
Dymchwelwyd y ganolfan wreiddiol yn 2007 a chodwyd yr un presennol yng Ngorffennaf 2008; roedd y gost o'i chodi yn 4.3 miliwn o bunnoedd. Fel rhan o'r cynllun hwn codwyd hefyd le bwyta a galeri i arddangos gwaith celf a siop fechan. Mae yma hefyd
ganolfan ymwelwyr
o fewn y ganolfan.
[1]