Mae Shaun Perry yn sgorio cais
Mewn gem
rygbi'r undeb
neu
rygbi'r gynghrair
,
cais
yw'r prif ffordd o sgorio pwyntiau. Sgorir cais drwy osod y
bel
ar y llawr ar linell gol y gwrthwynebwyr neu du hwnt iddo. Daw'r term cais o'r syniad o geisio sgorio gol, sy'n awgrymu yn wreiddiol fod gosod y bel ar y llawr dim ond yn rhoi'r cyfle i geisio sgorio drwy gicio at y gol.
Gwerth cais mewn pwyntiau
[
golygu
|
golygu cod
]
Ers 1983, yn rygbi'r gynghrair, mae cais yn gyfwerth i bedwar pwynt. Cyn hynny, arferai cais fod yn werth tri phwynt. Yn rygbi'r undeb, mae cais yn werth pump o bwyntiau; mae gwerth cais o ran y nifer o bwyntiau wedi amrywio dros amser. Er fod cais yn werth llai o bwyntiau yn rygbi'r gynghrair, dyma'r prif ffordd o sgorio gan amlaf. Yn rygbi'r undeb fodd bynnag mae ennill pwyntiau'n dibynnu'n helaeth ar golau.