Dinas yn
Swydd Gaergrawnt
,
Dwyrain Lloegr
, ydy
Caergrawnt
(
Saesneg
:
Cambridge
).
[1]
Hi yw'r tref sirol ac mae hi'n gartref i ail brifysgol hynaf y byd Seisnig,
Prifysgol Caergrawnt
.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Caergrawnt boblogaeth o 145,818.
[2]
Beic ydy modd cludiant llawer o bobl yng Nghaergrawnt, oherwydd y brifysgol, a'r diffyg bryniau.
Anheddwyd yr ardal er cyn y
Rhufeiniaid
ond datblygodd gyda dyfodiad y Rhufeiniaid tua 40 O.C. Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, gwladychwyd yr ardal gan y Sacsoniaid. Nodir dyfodiad y
Llychlynwyr
mewn cronicl yn 878.
Gwraidd
Gwasg Prifysgol Caergrawnt
oedd rhoi trwydded argraffu yn
1534
. Sefydlwyd
Ysbyty Addenbrooke
(Addenbrooke's Hospital) yn
1719
.
Adeiladau a chofadeiladau
[
golygu
|
golygu cod
]
- Amgueddfa Fitzwilliam
- Capel
Coleg y Brenin
- Eglwys Mawr Santes Fair
- Kettle's Yard
- Pont y Gegin (1709)
- Pont Mathemategol (1905)
- Ysgol Pythagoras (c. 1200)