Cabinet y Deyrnas Unedig
ydy'r corff sy'n gwneud penderfyniadau ar ran
Llywodraeth y Deyrnas Unedig
, ac sy'n cynnwys 22 o aelodau ynghyd a
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
.
Gelwir yr aelodau hyn, a etholwyd o blith aelodau seneddol
T?'r Cyffredin
ac o
D?'r Arglwyddi
, yn
Weinidogion y Goron
a chant eu dewis gan y Prif Weinidog. Fel rhan o'u gwaith, caiff y Gweinidogion y cyfrifoldeb o fod yn bennaethiaid ar
Adrannau o'r Llywodraeth
gyda'r teitl "Y Gweinidog dros ... (Amaeth, Amddiffyn)" ac yn y blaen. Mae aelodau'r Cabinet, ar wahan i'r Prif Weinidog, ar yr un lefel a'i gilydd.
[1]
Yn draddodiadol, y Cabinet yw'r corff uchaf o ran gwneud penderfyniadau o fewn system llywodraethu
San Steffan
. Gwelir gwreiddiau'r system gyfansoddiadol hon yng ngwaith arloeswyr megis
Walter Bagehot
, a ddisgrifiodd y Cabinet fel "cyfrinach effeithiol" system wleidyddol Prydain yn ei lyfr
The English Constitution
. Dros y degwadau diwethaf, fodd bynnag, gwelwyd lleihau pwer y Cabinet gan drosglwyddo llawer o'i bwerau i'r Prif Weinidog.
[2]
Mae gwreiddau'r Cabinet yn gorwedd yng nghyfnod
Senedd Lloegr
, sef yn y cyfnod cyn creu
Teyrnas Prydain Fawr
a'r Deyrnas Unedig a'i dilynodd. Hyd at 16g penodwyd Swyddogion Gwladwriaethol gan Goron Lloegr, yn unigol, gydag eiddo, pwer a chyfrifoldebau eu hunain. Yr unig gorff ar y lefel hwn oedd
Cyfrin-gyngor Lloegr
. Ar ddiwedd y 16g gwelwn gyfeirio mewn dogfennau at "
cabinet council
", sef cyngor a roddwyd i'r brenin neu'r frenhines, yn breifat, mewn ystafell fechan (
cabinet
). Mae'r
Oxford English Dictionary
yn tadogi'r enw i
Francis Bacon
a'i
Essays
(1605) gan fyny mai ef a fathodd y term. Ond yma, mae Bacon yn ei ddefnyddio yng nghyd-destun gwledydd tramor ac yn difrio'r cysyniad fel "remedi oedd yn waeth na'r glefyd ei hun."
[3]
Yng nghyfnod
Senedd Prydain Fawr
, sefydlodd
Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban
"Cabinet Council"
swyddogol ym 1625, i weithredu fel ei gyngor-cyfrin (neu gyngor preifat) a defnyddir y gair "y Cabinet" am y tro cyntaf ym 1644 - unwaith eto, mewn modd dilornus, estronol.
[4]
Ers dyddiau
Sior I
y Cabinet yw prif grwp llywodraethol Llywodraeth Prydain (Llywodraeth Prydain Fawr yn y cyfnod hwnnw). Credir iddo ef a'i fab fabwysiadu'r dull tramor hwn o weithredu'n bennaf gan mai ail-iaith oedd y Saesneg iddynt ac y gwyddant fwy am drefn gwleidyddiaeth gwledydd eraill nag am un Lloegr.
I'r Prif Weinidog a'r Cymro
David Lloyd George
mae'r diolch am roi trefn ar y Cabinet, fodd bynnag, a'i system weithredol. Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog y DU (1916?1922) gwelwyd sefydlu
"Cabinet Office"
ac Ysgrifennydd, strwythur ffurfiol i'r pwyllgorau, cofnodion nad oeddent yn cael eu cyhoeddi a pherthynas clir a phendant rhwng Gweinidogion y gwahanol Adrannau. Y drefn hon a ddefnyddir heddiw.
Rhestr o aelodau'r cabinet presennol
[
golygu
|
golygu cod
]
Penodwyd Cabinet Johnson, yn wreiddiol, yng Ngorfennaf 2019.
Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.