C.P.D. Sir Hwlffordd
|
Enw llawn
|
Clwb Pel-droed Sir Hwlffordd
|
---|
Llysenw(au)
|
Yr Adar Gleision
Y Orllewin
|
---|
Sefydlwyd
|
1899
|
---|
Maes
|
Stadiwm Bridge Meadow
|
---|
Cynghrair
|
Uwch Gynghrair Cymru
|
---|
2023/24
|
8.
|
---|
|
|
Clwb
pel-droed
o
Hwlffordd
,
Sir Benfro
ydy
Clwb Pel-droed Sir Hwlffordd
(
Saesneg
:
Haverfordwest County Association Football Club
). Mae'r clwb yn chwarae yng
Nghynghrair Cymru (Y De)
, ail adran pel-droed yng Nghymru.
Ffurfiwyd y clwb yn
1899
[1]
ac maent yn chwarae ar faes
Dol y Bont
.
Ffurfwyd y Clwb yn 1899 fel
C.P.D. Hwlffordd
ond ar ol blynyddoedd o chwarae yng Nghynghrairt Sir Benfro, newidiwyd enw'r clwb i
C.P.D. Athletic Hwlffordd
ym 1936 wedi iddynt sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Cymru'r De
[1]
[2]
.
Cafwyd newid arall i enw'r clwb ym 1956 wrth iddynt fabwysiadu'r enw
C.P.D. Sir Hwlffordd
ac yn yr un tymor, llwyddodd y clwb i ennill pencampwriaeth Cynghrair Cymru'r De am y tro cyntaf yn eu hanes
[3]
. Llwyddodd y clwb i ennill y bencampwriaeth ar ddwy achlysur arall, ym 1980-81
[4]
a 1989-90
[5]
cyn dod yn un o aelodau gwreiddiol
Uwch Gynghrair Cymru
ym 1992-93.
Byr iawn oedd eu cyfnod cyntaf yn y Gynghrair Genedlaethol gan i'w maes gael ei brynnu gan archfachnad
Safeway
. Methodd y clwb a dod o hyd i faes o safon derbyniol i'r Gynghrair tra bo maes newydd yn cael ei adeiladu a bu rhaid iddynt ddisgyn yn ol i Gynghrair Cymru'r De ar gyfer tymor 1994-95.
Ym 1997, sicrhawyd dyrchafiad yn ol i'r Uwch Gynghrair wrth iddynt orffen ar frig Cynghrair Cymru'r De am y pedwerydd tro yn eu hanes
[6]
.
Bu i chwaraewr Cymru, Simon Davies, gychwyn ei yrfa fel bachgen yn Hwlffordd. Mab o ardal
Sir Benfro
ydyw.
Tymor
|
Cystadleuaeth
|
Rownd
|
Clwb
|
Cymal 1af
|
2il Gymal
|
Dros Ddau Gymal
|
2004-05
|
Cwpan UEFA
|
Rd. Rhag
|
FH
|
0?1
|
1?3
|
1?4
|