한국   대만   중국   일본 
Bwlch Oerddrws - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Bwlch Oerddrws

Oddi ar Wicipedia
Bwlch Oerddrws
Math bwlch   Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd   Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru  Cymru
Cyfesurynnau 52.739248°N 3.792114°W  Edit this on Wikidata
Map

Bwlch yn ne-ddwyrain Meirionnydd , Gwynedd , rhwng Dolgellau a Dinas Mawddwy yw Bwlch Oerddrws (neu Bwlch yr Oerddrws ). Mae lon priffordd yr A470 yn ei groesi. Ar ei uchaf mae'n 360 metr (tua 1200 troedfedd) uwchlaw lefel y mor.

Daearyddiaeth [ golygu | golygu cod ]

I'r gogledd mae cadwyn hir y ddwy Aran, Aran Fawddwy ac Aran Benllyn , yn ymestyn i gyfeiriad Y Bala a'r Berwyn . I'r de mae'r gadwyn yn parhau i gyfeiriad Corris a Llyn Mwyngil gyda chopaon Cribin Fach, Waun Oer a Mynydd Ceiswyn . O gwmpas y bwlch ei hun ceir llethrau llwm Ochr-y-Bwlch i'r gogledd, sy'n codi i Ben y Bryn Fforchog (660m). I'r de ceir clogwyni Craig y Bwlch dan y Gribin Fach. Mae'n fwlch llydan ac agored iawn ac mae'n hawdd gweld sut y cafodd yr enw 'Oerddrws'. Ceir fferm ychydig filltiroedd i'r de, ar bwys y lon i Gorris, o'r enw 'Hafoty Oer' yn ogystal.

Bwlch Oerddrws
Bwlch Oerddrws o Faesglase .

Rhedai'r hen lon bost o gyfeiriad Dolgellau drwy'r Groes-lwyd a heibio i dafarn enwog Y Llwynogod Croesion ( Crossfoxes ). Ers canrifoedd mae'r dafarn honno wedi croesawu teithwyr ac mae ymhlith yr uchaf a'r unigaf yng Nghymru. Mae llwybr i ben Cadair Idris yn dechrau ychydig is i fyny o'r dafarn. A'r ffordd yn ei blaen heibio ffermdy Gwanas-fawr gan groesi Afon Clywedog a dringo'n syth i'r bwlch ei hun. O'r bwlch mae'r olygfa i'r ddau gyfeiriad, gorllewin a dwyrain, yn odidog pan fo'r tywydd yn braf. Mae'r ffordd yn disgyn yn syth ac yn serth (1:5) i gyfeiriad Dinas Mawddwy a Mallwyd gan ddilyn glannau Afon Cerist i lawr i ymuno ag Afon Dyfi . Camlan yw enw'r llecyn wrth waelod y bwlch ond mae'n annhebygol fod yna unrhyw gysylltiad rhyngddo a safle'r frwydr enwog .

Hanes [ golygu | golygu cod ]

Dywedir fod Gwylliaid Cochion Mawddwy yn arfer ymosod ar deithwyr a'u hysbeilio wrth iddynt fynd trwy'r bwlch.

Ym mis Medi 2009, caewyd y ffordd trwy'r bwlch gan dirlithriad, ac arhosodd ar gau bum diwrnod. [1] Teithiodd bws ysgol a phlant ar y ffordd tra'i bod hi ar gau, a achosodd pryderon diogelwch. [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "A470: Galw am welliannau" . BBC Cymru . 8 Medi 2009 . Cyrchwyd 11 Awst 2017 .
  2. "Landslip to close road for days" (yn Saesneg). BBC Cymru . 2 Medi 2009 . Cyrchwyd 11 Awst 2017 . Unknown parameter |trans_title= ignored ( help ) (Saesneg)