Y
Fußball-Bundesliga
(
Cymraeg
: "y Gynghrair Bel-droed Ffederal") yw prif adran
bel-droed
yr Almaen
. Mae 18 tim yn cystadlu yn y gynghrair gyda timau yn disgyn i ? ac yn esgyn o ? 2. Bundesliga. Mae'r tymor yn rhedeg rhwng Awst a Mai.
Mae 54 clwb gwahanol wedi cystadlu yn y Bundesliga ers y tymor cyntaf ym 1963 a
FC Bayern Munchen
yw'r tim mwyf llwyddiannus ar ol ennill 26 o bencampwriaethau.
Ffurfiwyd y Deutscher Fußball Bund (
Cymraeg
:
Cymdeithas Bel-droed yr Almaen
) (DFB) ar 28 Ionawr 1900 yn
Leipzig
gydag 86 o glybiau yn aelod. Cyn sefydlu'r Bundesliga roedd pel-dreod yn yr Almaen yn cael ei chwarae mewn sawl cynghrair amatur gyda'r pencampwyr yn cystadlu mewn gemau ail gyfle am yr hawl i chwarae yn y rownd derfynol a chael eu coroni'n bencampwyr. Y pencapwyr swyddogol cyntaf oedd
VfB Leipzig
drechodd DFC Prague 7?2 mewn gem chwaraewyd yn Altona ar 31 Mai 1903
[1]
.
Wedi'r
Ail Ryfel Byd
a buddugoliaeth annisgwyl
Gorllewin yr Almaen
yng
Nghwpan y Byd 1954
daeth galw am gynghrair genedlaethol gan hyforddwr y tim, Sepp Herberger ond bu rhaid disgwyl tan 1962 a pherfformiad siomedig y tim cenedlaethol yng
Nghwpan y Byd 1962
cyn i glybiau'r DFB bleidleisio o blaid sefydlu'r Bundesliga.
Yr 16 tim cafodd eu dewis i fod yn y Bundesliga ar gyfer y tymor cyntaf oedd
Borussia Dortmund
,
Eintracht Braunschweig
,
Eintracht Frankfurt
,
Hamburger SV
,
Hertha BSC
,
1. FC Kaiserslautern
,
Karlsruher SC
,
1. FC Koln
,
Meidericher SV Duisburg
,
1860 Munchen
,
1. FC Nurnberg
,
1. FC Saarbrucken
,
FC Schalke 04
,
VfB Stuttgart
a
Werder Bremen
gydag 1. FC Koln yn dod y pencampwyr cyntaf a Preußen Munster a 1. FC Saarbrucken yn dod y clybiau cyntaf i gwympo allan o'r Bundesliga
[2]
.