Brychni haul ar
wyneb
plentyn.
Ysmotyn neu smotiau melynllwyd ar y croen ydy
brych,
('brychni' ydy'r lluosog); ceir ystyr arall i'r gair, sef amwisg
buwch
neu
gaseg
newydd ei eni. Clystyrau bychan o
felanin
ydyw mewn gwirionedd. 'Brycheuyn', neu 'gwall' ydy ei ystyr yn yr hen Frythoneg 'bricca' ac fe'i ceir gyntaf yn y Gymraeg yn y Beibl, yn 1300,
Tynn y brychewyn oth lygat dy hyn yn gyntaf
.
Mae brychni haul yn cael ei basio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth, oherwydd y
genyn dominant
genemelanocortin-1, yn benodol:
melanocortin
(MC1R). Yr
haul
sy'n symbylu'r tyfiant, fel y sylweddolodd yr hen Gymru drwy roi'r enw 'brychni haul' arnynt. Mae pelydrau'r haul (yr
uwchfioled
, yn benodol) yn ysbrydoli'r melanoseits i gynhyrchu melanin, sy'n cynyddu eu maint a thywyllu eu lliw.
Ar yr wyneb a'r fraich y maen nhw fel arfer, fel y gwelwn o'r lluniau. Ond, pan fo rhannau eraill o'r corff yn llygad yr haul, gallent lewyrchu yno hefyd. Anamal iawn rydym yn eu gweld ar fabis bach. Fel arfer ar blant oed
llencyndod
maen nhw'n tyfu.