Un o frwydrau mwyaf y
Rhyfel Byd Cyntaf
oedd
Brwydr y Somme
pan laddwyd neu anafwyd mwy na miliwn a hanner o filwyr. Ymladdwyd y frwydr rhwng Gorffennaf a Thachwedd
1916
. Ceisiodd y Cyngheiriaid, unedau Prydeinig yn bennaf ond gyda rhai Ffrengig, dorri trwy'r llinellau Almaenig ar hyd ffrynt 12 milltir (19 km) o hyd i'r gogledd a'r de o
Afon Somme
yng ngogledd
Ffrainc
.
Cofir y frwydr yn bennaf am ei diwrnod cyntaf,
1 Gorffennaf
1916, pan gollodd y fyddin Brydeinig 67,470 o filwyr, 19,240 wedi eu lladd; y nifer uchaf yn ei hanes.
Amcan y frwydr oedd i ddenu lluoedd yr Almaen oddi ar
Frwydr Verdun
ond mewn gwirionedd collwyd mwy ar y Somme nag yn Verdun.