- Erthygl am y dilledyn yw hon. Am y ddinas yn yr Eidal gweler
Bra (Yr Eidal)
.
Model yn arddangos bra.
Dilledyn is i fenywod yw
bra
(talfyriad o'r gair
Saesneg
brassiere
, o'r gair
Ffrangeg
brassiere
) a ddefnyddir i gynnal y
bronnau
. Fel rheol mae'n cael ei wisgo gyda dilledyn is fel
nicyrs
.
Mae gan y bra - neu ddillad tebyg iddo - hanes hir. Arferai merched dosbarth uwch
Groeg yr Henfyd
wisgo darnau o lian wedi eu lapio o gwmpas y bronnau a'r cefn.
[1]
Dros y canrifoedd datblygwyd sawl math o ddilledyn i gynnal y bronnau, fel y
corset
er enghraifft, ond nid ymddangosodd y bra modern tan yn gymharol diweddar.
- ↑
Muriel Barbier, Shazia Boucher,
Les dessous feminins
, Parkstone. 'Temporis', 2005 (
ISBN 1859958095
).