Ynys yn perthyn i
Papua Gini Newydd
yw ynys
Bougainville
. Gydag ynys lai
Buka
mae hefyd yn un o daleithiau Papua Gini Newydd. Yn ddaearyddol, mae'n rhan o
Ynysoedd Solomon
. Mae gan yr ynys arwynebedd o 9.318 km² ac roedd y boblogaeth yn
2000
yn 175,160. Prifddinas y dalaith ar hyn o bryd yw dinas
Buka
, er fod bwriad i adfer yr hen brifddinas,
Arawa
, fel prifddinas. Y copa uchaf yw Mynydd Balbi, 3,123 medr.
Enwyd yr ynys ar ol y fforiwr Ffrengig
Louis Antoine de Bougainville
, yr Ewropead cyntaf i gyrraedd yr ynys yn
1768
. Dath dan fandad
Awstralia
yn ddiweddarach. Meddiannwyd yr ynys gan luoedd
Japan
yn
1942
ai'i hadfeddiannu gan Awstralia yn
1945
. Yn
1949
, ymgorfforwyd yr ynys yn nhiriogaeth Papua-Gini Newydd, oedd dan reolaeth Awstralia.
Yn
1969
, datblygodd gwrthwynebiad ymhlith y boblogaeth i'r cwmniau mwyngloddio oedd yn berchenogion dros hanner yr ynys, a gwaethygodd y sefyllfa yn
1972
, gyda streic gyffredinol. Yn
1975
, cyhoeddodd yr awdurdodau lleol annibyniaeth yr ynys (gydag ynys
Buka
) fe; "Gweiniaeth Gogledd Solomon". Wedi cytundeb a Papua-Gini Newydd, cytunwyd i ddileu'r weriniaeth o dod yn dalaith ymreolaethol o Papua-Gini Newydd.
Fodd bynnag, parhaodd y problemau gyda'r cwmniau mwyngloddio, ac yn
1990
cyhoeddodd yr ynys ei hanibyniaeth am yr ail tro, fel "Gweriniaeth Bougainville". Yn fuan wedyn, newidiwyd yr enw i "Weriniaeth Meekamui". Wedi trafodaethau heddwch, dychwelodd yr ynys i fod yn rhanbarth o Papua-Gini Newydd yn
2005
, ond gyda mesur helaethach o hunanlywodraeth.