Roedd Syr
Robert William "Bobby" Robson
CBE (
18 Chwefror
1933
?
31 Gorffennaf
2009
) yn chwaraewr
pel-droed
rhyngwladol a chyn-reolwr nifer o dimau pel-droed
Ewropeaidd
a thim cenedlaethol
Lloegr
.
Parhaodd ei yrfa broffesiynol fel blaenwr-mewnol am bron i ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, chwaraeodd i dri tim yn unig -
Fulham
,
West Bromwich Albion
a chyfnod byr gyda'r Vancouver Royals. Chwaraeodd i dim Lloegr ar ugain achlysur, gan sgorio pedwar gol.
Roedd yn fwy adnabyddus am ei lwyddiant fel rheolwr clybiau a thimau rhyngwladol, gan ennill pencampwriaethau cynghrair yn yr
Iseldiroedd
a
Phortiwgal
, gan ennill tlysau yn Lloegr a
Sbaen
, ac am arwain tim Lloegr i'r rownd gyn-derfynol yng Nghwpan y Byd ym 1990. Yn fwy diweddar, gweithiodd fel mentor i reolwr tim pel-droed cenedlaethol
Gweriniaeth Iwerddon
.
Urddwyd Robson yn 2002, ac mae'n aelod o Rodfa Enwogion Pel-droedwyr Lloegr. Ef hefyd oedd llywydd anrhydeddus
Ipswich Town
Ers 1991, bu'n dioddef o
gancr
ac ym mis Awst 2008, dywedodd fod
cancr yr ysgyfaint
wedi ei drechu. Dywedodd: "My condition is described as static and has not altered since my last bout of chemotherapy...I am going to die sooner rather than later. But then everyone has to go sometime and I have enjoyed every minute."
Bu farw Bobby Robson yn y bore ar y
31 Gorffennaf
,
2009
.
[1]