Hynafiaethydd a chasglwr
llyfrau
oedd
Bob Owen Croesor
(
Robert Owen
:
8 Mai
1885
-
30 Ebrill
1962
). Roedd yn frodor o
Lanfrothen
yn yr hen
Sir Feirionnydd
(
Gwynedd
heddiw), ond treuliodd ran helaeth o'i oes ym mhentref
Croesor
, wrth droed y
Cnicht
a'r
Moelwynion
.
Brodor o Groesor oedd Bob Owen. Priododd ag Ellen (Nel) Jones yn
1923
. Yn ol pob son treuliodd ei fis mel yn
Aberystwyth
yn y
Llyfrgell Genedlaethol
. Roedd iddynt un mab a dwy ferch.
[1]
Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn
hanes
lleol, hanes y Cymry yn America ac
achyddiaeth
Gymreig. Darlithiai i
Gymdeithas Addysg y Gweithwyr
a daeth yn adnabyddus felly i'r werin. Roedd ei d? bychan yng Nghroesor yn enwog am fod mor llawn o lyfrau a phapurau o bob math fel prin y gellid symud yno, yn llythrennol.
[1]
Enwyd
Cymdeithas Bob Owen
, cyhoeddwyr
Y Casglwr
, ar ei ol pan gafodd ei sefydlu yn
1976
.
- Dyfed Evans,
Bywyd Bob Owen
(Gwasg Gwynedd 1977). Cofiant.
- Geraint Jones (gol.),
Dyfed Evans yng nghwmni Bob Owen, Croesor
(Gwasg Utgorn Cymru, 2007)
- Robin Williams,
Y Tri Bob
(Dinbych, 1970)
- Robin Williams,
Y Tri Bob
(recordau Teledisc, Abertawe, 1965) record;
https://www.discogs.com/Robin-Williams-Y-Tri-Bob/release/2607912
- ↑
1.0
1.1
Dyfed Evans,
Bywyd Bob Owen
(Gwasg Gwynedd 1977).