Y Tad Edward Daly yn chwifio hances waedlyd wrth iddo geisio arwain criw o Babyddion (sifiliaid) rhag bwledi byddin Lloegr.
Bloody Sunday
yw'r enw a roddir ar y gyflafan a ddigwyddodd yn
Derry
,
Gogledd Iwerddon
, ar
ddydd Sul
,
30 Ionawr
1972
pan saethodd byddin Lloegr 26 o sifiliaid, gan ladd 14.
Credir fod y gyflafan wedi bod yn ergyd farwol i'r mudiad hawliau sifil di-drais yng Ngogledd Iwerddon ac yn hwb sylweddol i'r
IRA
ac eraill a ddadleai mai ymladd arfog oedd yr unig ateb.
Saethwyd 26 o brotestwyr
hawliau sifil
gan
filwyr Prydeinig
, yn bennaf gan uned o
2 Para
(
The 2nd Battalion The Parachute Regiment
). Lladdwyd 13, 6 ohonynt yn blant o 17 oed, ar y dydd gydag un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad. Tystiodd pobl a welodd y digwyddiad, gan gynnwys gohebwyr, fod pawb a saethwyd heb arfau. Roedd pum o'r rhai a glwyfwyd wedi cael eu saethu yn eu cefn. Roedd y rhai a laddwyd yn cynnwys offeiriad Catholig a geisiodd ymgeleddu un o'r sifiliaid eraill a oedd yn gorwedd ar lawr wedi'i saethu.
Cafwyd ymholiad swyddogol i'r digwyddiad dan arolygiaeth yr Ustus Wiggins a dderbyniodd adroddiad y Fyddin Brydeinig. Ni chafodd neb o'r milwyr yn euog ac anrhydeddwyd aelodau o 2 Para gan
Frenhines y DU
yn ddiweddarach.