Big Leaves
Enghraifft o'r canlynol
| band
|
---|
Gwlad
|
Cymru
|
---|
Label recordio
| Ankst
|
---|
Dod i'r brig
| 1988
|
---|
Genre
| roc indie
|
---|
Band poblogaidd o
Waunfawr
,
Caernarfon
oedd
Big Leaves
(
Beganifs
yn wreiddiol). Ffurfiwyd y band yn wreiddiol pan oedd yr aelodau yn eu arddegau ac yn ddisgyblion yn
Ysgol Syr Hugh Owen
, Caernarfon.
[1]
Mabwysiadwyd yr enw "Beganifs" ar ol y glas-enw lleol ar bobol y Waunfawr.
[2]
Yn y 1990au gwahoddwyd y band i berfformio mewn g?yl yn Amsterdam a saethwyd fideo yno. Camglywodd rastaffarian lleol enw'r band fel 'Big Leaves' - ac fe sticiodd yr enw. Daeth EP cyntaf y band gyda'r enw newydd yn 1998.
[3]
Fe wnaeth y band roi'r ffidl yn y to yn
2005
.
Alien & Familiar
oedd albwm olaf y band ac yn gampwaith ymysg nifer o senglau ag albymau penigamp a gyhoeddwyd gan y band. Yn y blynyddoedd cynnar roedd potensial y band dwyieithog yn amlwg, a honnwyd i Liam Gallagher o'r band byd-enwog
Oasis
ddewis '‘Fine'’ fel sengl y flwyddyn yn 2000.
Cyn hynny, roedden nhw wedi rhyddhau'r cyntaf o ddau albwm:
Pwy Sy’n Galw?
. Albwm uniaith Gymraeg ydoedd, a gynhwysai eu can enwocaf, ‘'
Seithenyn
'’. Dywedodd Rhodri Sion mewn cyfweliad - "Our song 'Seithenyn' has a middle eight that's like a Welsh Bohemian Rhapsody. It's a song about this Welsh legend. There's barber shop singing in the middle!"
[3]
Rhyddhaodd y band nifer o EPs o safon a thyfodd eu statws fel band ‘byw’ ardderchog.
Gydag ychydig mwy o gyhoeddusrwydd, nid oes amheuaeth y gallai Big Leaves fod wedi ehangu eu henw da a dyfod yn un o’r bandiau mwyaf poblogaidd i’w geni yng Nghymru, gan ddilyn olion traed y
Super Furry Animals
a’r
Manic Street Preachers
.
[
angen ffynhonnell
]
- fel Beganifs
- Ffraeth
(Albwm caset, Recordiau
Ankst
, ANKST 026, 1992)
- Aur
(Albwm caset, Recordiau Ankst, ANKST 035, 1992)
- Beganifs
(EP caset, Recordiau Ankst, ANKST 049, 1994)
- fel Big Leaves
- Trwmgwsg
(EP, Crai CD062, 1998)
- Belinda
(EP, Crai CD066, 1999)
- "Sly Alibi / Double Trouble " (Sengl, W-CRACK002, 1999)
- "Racing Birds" (Sengl, W-CRACK003, 1999)
- Pwy Sy'n Galw
(Albwm, Crai CD 069, 2000)
- Animal Instinct
(EP, EDDA02, 2001)
- Speakeasy
(EP, EDDA04, 2001)
- Siglo
(EP, CRAI CD082, 2002)
- Alien & Familiar
(Albwm, EDDA 05CD, 2004)