Batri AA
Batri
fel rheol yw'r ffynhonnell egni mewn
cylched
cerrynt
union (D.C).
Mae
foltedd
o 1.5V gan bob
cell electrocemegol
mewn batri cyffredin (nid ailwefradwy) felly mae un gell mewn batri 1.5V, a chwech mewn batri 9V. Ond mewn batri ailwefradwy, 1.2V yw foltedd pob cell. Y math cyntaf o fatri ailwefradwy a werthwyd oedd NiCd (batri gyda nicel a chadmiwm), ond mae batris NiMH; gyda metel sy'n amsugno hydrogen yn hytrach na chadmiwm yn y
cathod
sydd ar gael bellach; yn cadw mwy o wefr. Mae rhai mathau o fatris yn cynnwys
arian byw
, a allai achosi problemau amgylcheddol oherwydd ei waredion.