Ffilm rhwng
Ffrainc
a'r
Eidal
ydy
Barbarella
a ddaeth allan 10 Hydref 1968,
[4]
} ganwneud $2.5 miliwn mewn incwm am logi'r fideo yn unig yng Ngogledd America yn 1968.
[3]
Fe'i sefydlwyd ar gomic Ffrangeg gan
Jean-Claude Forest
. Seren y ffilm yw
Jane Fonda
ac fe'i cynhyrchwyd gan
Roger Vadim
, g?r Fonda ar y pryd. Doedd y ffilm ddim yn boblogaidd yn
Ewrop
pan ddaeth allan ond wedi 1977 daeth yn boblogaidd a bellach mae'n 'gwlt'.
Ffilm wyddonias
ydy Barbarella, ble mae'r seren, Barbarella'n cael tasg gan Llywydd y Ddaear, sef achub 'Doctor Durand Durand' o ardal y Tau Ceti. Mae Durand Durand wedi dyfeisio arf: y
Positronic Ray
, ac mae pobl y Ddaear yn ofni yr eith i ddwylo anghywir. Mae Barbarella'n cael ei chipio ar Blaned 16 yn Tau Ceti ond daw Mark Hand i'w hachub. Fel gwobr, mae hi'n cael rhyw efo fo. Wrth gael rhyw, mae'r roced yn crashio ond mae Hand yn ei drwsio. Mae'r ddau'n gwahanu, efo'r addewid y gwneith ddod yn ol.
Mae'n mynd i drwbwl tebyg sawl tro wedi hyn, cyn iddi hi achub y Doctor.