Fe elwir
baner Gwlad Tai
yn y
Trairanga
("trilliw"). Mae'n cynnwys dau stribed llorweddol
coch
ar y brig a'r gwaelod, sy'n symboleiddio
gwaed
bywyd, dau stribed llorweddol gwyn, sy'n cynrychioli purdeb
Bwdhaeth
, a stribed llorweddol llydan
glas
yn y canol i symboleiddio'r
frenhiniaeth
.
Fe elwir Gwlad Tai yn "Wlad yr
Eliffant
Gwyn", ac ymddangosodd y symbol hwn ar faner goch blaen yn ystod
y bedwaredd ganrif ar bymtheg
. Yn ystod
y Rhyfel Byd Cyntaf
, ychwanegwyd stribedi llorweddol gwyn uwchben ac o dan yr eliffant. Yn
1917
cafwyd gwared ar yr eliffant, ac ychwanegwyd stribed llorweddol glas i ganol y faner er mwyn cynrychioli undod a'r
Cynghreiriaid
(yr oedd y mwyafrif o'u baneri hwy yn goch, gwyn a glas); mabwysiadwyd y faner gyfredol hon ar
28 Medi
y flwyddyn honno.
- Complete Flags of the World
(Dorling Kindersley, 2002)