Baner Ecwador
Lluman sifil Ecwador
Mabwysiadwyd
baner
Colombia Fawr
ar
17 Rhagfyr
,
1819
yn dilyn ei
hannibyniaeth
ar
Sbaen
.
Baner
drilliw lorweddol yw hi, gyda hanner uchaf y faner yn
felyn
(symbol o Golombia Fawr), y chwarter nesaf i lawr yn
las
(i gynrychioli annibyniaeth ar Sbaen) a'r chwarter isaf yn
goch
(am
ddewrder
). Lliwiau
Francisco de Miranda
, yr arweinydd rhyddid, ydynt. Fe ymwahanodd
Ecwador
o Golombia Fawr fel
gweriniaeth
ar wahan ym
1830
, ac ar
26 Medi
,
1860
mabwysiadwyd dyluniad baner Colombia Fawr fel
baner Ecwador
.
Fel baneri eraill y cyn-
drefedigaethau
Sbaenaidd, gosodir
arfbais y wlad
yn ei chanol pan defnyddir fel
lluman gwladwriaethol
neu
lyngesol
; ychwanegwyd hon ym
1900
. Nid oes arfbais yn y
lluman sifil
ac felly mae'n unfath a
baner Colombia
, ac eithrio'r cyfraneddau.
- Complete Flags of the World
, Dorling Kindersley (2002)