Baner Brasil
Y taleithiau yn y cytser
Mabwysiadwyd
baner Brasil
ar
12 Mai
1992
. Mae'r ser yn cynrychioli gwahanol
daleithiau Brasil
. Dyma'r fersiwn gyfredol o'r faner sydd wedi gweld sawl man newid dros y degawdau - prin byddai'r gwyliwr lleyg yn gweld y gwahaniaethau o'r rhai blaenorol.
Mabwysiadwyd y dyluniad wreiddiol, gyda 21 seren, ar 19 Tachwedd 1889. Cynyddwyd nifer y ser i 22 yn 1960, i 23 yn 1968 ac i 27 yn 1992. Y cyfrannau gyfredol ar gyfer siap y faner yw 7:10.
O 15 Tachwedd i 19 Tachwedd 1889, defnyddiwyd y faner weriniaethol gyntaf fel y faner genedlaethol - dyma oedd y cyfnod pan symudodd y wlad o fod yn Ymerodraeth i fod yn Weriniaeth.
Mae naner gyfredol Gwerinaieth
Brasil
wedi ei seilio ar faner gynharach Ymerodraeth Brasil gan addasu'n fras ond cadw'r un lliw a siap. Roedd y gwyrdd yn y fersiwn Ymerodraethol yn cynrychioli T? Braganza, Pedro I, Ymerawdwr gyntaf Brasil, tra bod y melyn yn cynrychioli T? Habsburg ei wraig, yr Ymerodraethes Maria Leopoldina.
[1]
Dyluniwyd y faner gan Raimundo Teixeira Mendes. Daeth y cylch glas gyda ser bum-bwynt gwyn i ddisodli arfbais Ymerodraeth Brasil gyda'r ser yn cynrychioli taleithiau'r wlad gan ddiweddaru ac ychwanegu fel bod angen. Ysbrydolwyd yr arwyddair
Ordem e Progresso
gan arwyddair
bositifaidd
Auguste Comte: "L'amour pour principe et l'ordre pour sylfaen; le progres pour but" ("Caru fel egwyddor a threfn fel sail; cynnydd fel y nod").
[2]
Defnyddiwyd ser ar y faner ymerodraethol er mwyn dynodi nifer y taleithiau - fel a gwneir ar
faner yr UDA
a sawl baner arall, bellach.
Oriel Baner Hanesyddol Brasil
[
golygu
|
golygu cod
]
-
Baner Teyrnas Unedig Portiwgal, Brasil a'r Algarve (1816?1821)
-
Baner Teyrnas Brasil (1815?1822; tybiedig)
[3]
-
Baner Teyrnas annibynnol Brasil (18 Medi ? 1 Rhagfyr 1822)
-
Baner dros dro Gweriniaeth Taleithiau Unedig Brasil (15 Tachwedd ? 19 Tachwedd 1889)
-
Baner gyntaf Gweriniaeth Ffederasiwn Brasil gyda 21 seren (1889?1960), ceir belach 27 seren
Dim ond yn llorweddol y gellir chwifio baner Brasil. 'Diwrnod y Faner' yw 19 Tachwedd. Dyna pryd y llosgir han faneri sydd wedi eu treilio wrth chwifio y tu allan i swyddfeydd neu adeiladau sifil a chenedlaethol. Rhaid eu llosgi mewn canolfan filwrol.
Dosbarthiad Ser ar faner Brasil
Fel sawl gwlad arall, mae Brasil yn defnyddio ser i gynrychioli taleithiau neu siroedd mewnol y wlad ar ei baner. Yn wahanol i bob gwlad arall mae gan leoliad a maint y ser ystyr neu symboliaeth wrth eu lleoli ar y faner.
Mae'r cylch canolog yn cynrychioli'r awyr dros
Rio de Janeiro
(prifddinas y wlad ar y pryd) am 8.30 a.m. bore bore 15 Tachwedd 1889, dyddiad cyhoeddi'r Weriniaeth. Mae'r 27
seren
yn cyfateb i'r
cytserau
Procyon (α
Canis Minoris
),
Canis Major
, Canopus (α Carinae), Spica (α Virginis), Hydra, Crux, Sigma Octantis (σ Octantis, Seren y Pole De), Triangulum Australe Scorpius. Mae pob un o'r 26 seren yn cynrychioli talaith y Ffederasiwn ac mae'r 27ain seren yn cynrychioli'r Ardal Ffederal.
Mae'r band crwm yn cynrychioli llinell y
cyhydedd
, ac mae'r arwyddair cenedlaethol yn ymddangos arno: "Ordem e Progresso" ("trefn a datblygiad"). Mae'r cefndir gwyrdd a'r rhombws melyn yn cynrychioli'r adnoddau coedwig a mwynau.
Ser - Cynrychiolaeth Taleithiau
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae nifer y ser yn gallu amrywio gyda cynnydd (neu leihad) yn nifer
taleithiau Brasil
. Caent eu dosbarthu yn ol gwahanol cytser sydd yn y ffurfafen. Dyma'r ser sy'n cynrychioli taleithiau Brasil (ac eithrio Sigma Octantis sy'n cynrychioli'r Ardal Ffederal):
Talaith
|
Seren
|
Cytser
|
Maint
(1=largest)
|
Talaith
creu
|
Seren
ychwanegu
|
Amazonas
|
Alpha Canis Minoris (
Procyon
)
|
Canis Minor, y Ci Bach
|
1
|
1889
|
1889
|
Mato Grosso
|
Alpha Canis Majoris (
Sirius
)
|
Canis Major, y Ci Mawr
|
1
|
1889
|
1889
|
Amapa
|
Beta Canis Majoris (
Mirzam
)
|
Canis Major, y Ci Mawr
|
2
|
1991
|
1992
|
Rondonia
|
Gamma Canis Majoris (
Muliphen
)
|
Canis Major, y Ci Mawr
|
4
|
1982
|
1992
|
Roraima
|
Delta Canis Majoris (
Wezen
)
|
Canis Major, y Ci Mawr
|
2
|
1991
|
1992
|
Tocantins
|
Epsilon Canis Majoris (
Adhara
)
|
Canis Major, y Ci Mawr
|
3
|
1989
|
1992
|
Para
|
Alpha Virginis (
Spica
)
|
Virgo, y Gwiryf
|
1
|
1889
|
1889
|
Piaui
|
Alpha Scorpii (
Antares
)
|
Scorpius, y Scorpion
|
1
|
1889
|
1889
|
Maranhao
|
Beta Scorpii (
Graffias
)
|
Scorpius, y Scorpion
|
3
|
1889
|
1889
|
Ceara
|
Epsilon Scorpii (
Larawag
)
[4]
|
Scorpius, y Scorpion
|
2
|
1889
|
1889
|
Alagoas
|
Theta Scorpii (
Sargas
)
|
Scorpius, y Scorpion
|
2
|
1889
|
1889
|
Sergipe
|
Iota Scorpii
|
Scorpius, the Scorpion
|
3
|
1889
|
1889
|
Paraiba
|
Kappa Scorpii
|
Scorpius, y Scorpion
|
3
|
1889
|
1889
|
Rio Grande do Norte
|
Lambda Scorpii (
Shaula
)
|
Scorpius, y Scorpion
|
2
|
1889
|
1889
|
Pernambuco
|
Mu Scorpii (
Xamidimura & Pipirima
)
[4]
|
Scorpius, y Scorpion
|
3
|
1889
|
1889
|
Mato Grosso do Sul
|
Alpha Hydrae (
Alphard
)
|
Hydra, y Sarff D?r
|
2
|
1979
[note]
|
1960
[note]
|
Acre
|
Gamma Hydrae
|
Hydra, y Sarff D?r
|
3
|
1962
|
1968
|
Sao Paulo (talaith)
|
Alpha Crucis
|
Crux, Croes y De
|
1
|
1889
|
1889
|
Rio de Janeiro (talaith)
|
Beta Crucis (
Mimosa
)
|
Crux, Croes y De
|
2
|
1889
|
1889
|
Bahia
|
Gamma Crucis (
Gacrux
)
|
Crux, Croes y De
|
2
|
1889
|
1889
|
Minas Gerais
|
Delta Crucis (
Imai
)
[5]
|
Crux, Croes y De
|
3
|
1889
|
1889
|
Espirito Santo
|
Epsilon Crucis (
Ginan
[4]
)
|
Crux, Croes y De
|
4
|
1889
|
1889
|
Rio Grande do Sul
|
Alpha Trianguli Australis (
Atria
)
|
Triangulum Australe, Triongl y De
|
2
|
1889
|
1889
|
Santa Catarina
|
Beta Trianguli Australis
|
Triangulum Australe, Triongl y De
|
3
|
1889
|
1889
|
Parana (talaith)
|
Gamma Trianguli Australis
|
Triangulum Australe, Triongl y De
|
3
|
1889
|
1889
|
Goias
|
Alpha Carinae (
Canopus
)
|
Carina, the Keel of Argo
|
1
|
1889
|
1889
|
Distrito Federal (Brasil)
|
Sigma Octantis
(
Polaris Australis
)
|
Octans, the Octant
|
5
|
1889
[note]
|
1889
|
Gweler hefyd
Baner Cymuned Gwledydd yr Iaith Portiwgaleg
y mae Brasil yn aelod ohoni.