Ysgrifennydd Cyffredinol
cyfredol
y Cenhedloedd Unedig
yw
Ban Ki-moon
(ganwyd
13 Mehefin
,
1944
yn
Eumseong
,
De Corea
;
Coreeg
: 반기문/潘基文).
Cyn dod yn Ysgrifennydd Cyffredinol, diplomydd yng
Ngweinyddiaeth Materion Tramor
De Corea ac yn y Cenhedloedd Unedig oedd Ban. Ymunodd a'r
gwasanaeth diplomyddol
y flwyddyn y graddiodd o brifysgol, a derbyniodd ei swydd gyntaf yn
Delhi Newydd
. Yn y weinyddiaeth dramor enillodd enw da am fod yn ddiymhongar a chymwys wrth ei waith.
Gweinidog Tramor
De Corea o Ionawr 2004 i Dachwedd 2006 oedd Ban. Yn Chwefror 2006 dechreuodd ymgyrchu am swydd yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Yn gychwynnol ni ystyrid Ban yn gystadleuydd oedd yn debygol o ennill y swydd. Ond fel gweinidog tramor De Corea llwyddodd i deithio i bob un o aelod-wladwriaethau
Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig
, gweithred a'i roddodd ar flaen y ras am y swydd.
Ar
13 Hydref
2006
, fe'i etholwyd gan
Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
fel yr wythfed Ysgrifennydd Cyffredinol. Ar
1 Ionawr
,
2007
, olynodd
Kofi Annan
, a phasiodd nifer o ddiwygiadau o bwys ynghylch cadw heddwch ac ymarferion cyflogi y CU. Yn ddiplomyddol mae Ban wedi cymryd safbwyntiau cryf iawn ar
gynhesu byd-eang
, trwy godi'r mater drosodd a throsodd gyda
George W. Bush
, Arlywydd yr Unol Daleithiau, a'r
Rhyfel yn Darfur
, lle chwaraeodd rhan mewn darbwyllo
Omar al-Bashir
, Arlywydd
Swdan
, i ganiatau luoedd cadw heddwch i mewn i'r wlad.
|
---|
Trafodwyr
| | |
---|
Pedwarawd diplomyddol
| |
---|
Cennad Arbennig
| |
---|