한국   대만   중국   일본 
Australopithecus sediba - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Australopithecus sediba

Oddi ar Wicipedia
Australopithecus sediba
Amrediad amseryddol: 1.98?1.977 Miliwn o fl. CP Pleistosen cynnar
Penglog "Karabo"
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primatiaid
Teulu: Hominidae
Genws: Australopithecus
Rhywogaeth: A. sediba
Enw deuenwol
Australopithecus sediba
Berger et al. , 2010 [1]

Hominid a math o Australopithecus a fu'n byw ar y Ddaear yn ystod y Pleistosen oedd Australopithecus sediba (neu A. sediba ). Mae'r ffosilau o'i esgyrn yn perthyn i gyfnod o tua dwy filiwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

Erbyn 2018 roedd chwech ysgerbwd wedi eu darganfod mewn ardal gyfoethog o ffosiliau: y Malapa yn Ne Affrica , gan gynnwys ffosil o laslanc (MH1 neu "Karabo"), [2] oedolyn benywaidd (MH2), oedolyn gwrywaidd a thri o blant bach. [1] [3] Canfyddwyd yr holl ffosiliau yn yr un ogof, ble ymddengys iddynt ddisgyn i'w marwolaeth rhwng 1.977 ac 1.980 CP . [4] [5]

Cafwyd hyd i dros 220 ffosil o'r rhywogaeth hon erbyn 2016. [1] Disgrifiwyd yr ysgerbydau'n wreiddiol mewn dau bapur yn y dyddlyfr Science gan y paleoanthropolegydd Lee R. Berger o Brifysgol Witwatersrand, Johannesburg a chydweithwyr iddo. Bathwyd y gair 'sediba' ganddo i ddisgrifio'r rhywogaeth newydd hon; ystyr "sediba" yn yr iaith Sotho yw "ffynnon". [1] Mae 34% o MH1 yn gyflawn ond nid yw'r cymalau'n sownd yn ei gilydd, a 45.6% o MH2 gyda rhai o'r prif esgyrn yn cysylltu a'i gilydd. [6]

Safana oedd tiriogaeth yr Australopithecus sediba a ffrwyth y fforest fyddai ei fwyd pob dydd, mae'n debyg - yn reit debyg i tsimpansis yr ardal heddiw. Oherwydd yr amgylchiadau eithriadol, trodd eu hesgyrn yn ffosiliau gan eu prisyrfio'n dda. Roedd yn bosib i'r gwyddonwyr echdynnu phytolithiau planhigion o blac deintiol y dannedd . [7] [8] [9]

Darganfod yr olion hynafol [ golygu | golygu cod ]

Matthew Berger yn arddangos y ffosil cyntaf yng Ngwarchodfa Natur Malapa.

Canfyddwyd y sbesimen cyntaf o A. sediba gan fab y paleoanthropolegydd Lee Berger : a oedd yn naw oed ar y pryd a hynny ar 15 Awst 2008. [10] Archwilio'r bryniau a'u creigiau dolomit gyda'i dad oedd Matthew, ychydig i'r gogledd o Johannesburg pan welodd y ffosiliau mewn lwmp o garreg. [10] Galwodd ar ei dad a syfrdanwyd yntau gan yr hyn a welodd: pont ysgwydd hominid . Pan drodd y garreg ar ben ei waered gwelodd enau dynol gyda dant yn stico mas ohoni. "Bron i mi farw!" oedd ebychiad y tad yn ddiweddarach. [10] Credir fod y glaslanc gwrywaidd (perchennog y ffosiliau hyn) yn 4 tr 2 fodf (1.27 m). [10] Gwnaed hyn yn gyhoeddus ar 8 Ebrill 2010.

Canfuwyd ffosiliau o anifeiliaid eraill yn yr ogof, gan gynnwys teigr ysgythrog, mong?s a sawl math o antelop. [10] Credir iddynt ddisgyn i lawr twll 100?150-tr (30?46 m) o ddyfnder a i mewn i'r ogof o dd?r calchog a fu'n gymorth i'w ffosileiddio a'u prisyrfio mor dda. [10]

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Berger, L. R.; de Ruiter, D. J.; Churchill, S. E.; Schmid, P.; Carlson, K. J.; Dirks, P. H. G. M.; Kibii, J. M. (2010). " Australopithecus sediba : a new species of Homo -like australopith from South Africa". Science 328 (5975): 195?204. doi : 10.1126/science.1184944 . PMID   20378811 .
  2. Juliet King (4 Mehefin 2010). " Australopithecus sediba fossil named by 17-year-old Johannesburg student" . Origins Centre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-25 . Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2011 .
  3. Ann Gibbons (2011). "A new ancestor for Homo ?". Science 332 (6029): 534. doi : 10.1126/science.332.6029.534-a . PMID   21527693 .
  4. African fossils put new spin on human origins story - BBC News - Jonathan Amos - Adalwyd 9 Medi 2011.
  5. Dirks, P. H. G. M.; Kibii, J. M.; Kuhn, B. F.; Steininger, C.; Churchill, S. E.; Kramers, J. D.; Pickering, R.; Farber, D. L. et al. (2010). "Geological setting and age of Australopithecus sediba from Southern Africa". Science 328 (5975): 205?208. doi : 10.1126/science.1184950 . PMID   20378812 .
  6. Nodyn:Cite thesis
  7. Henry, Amanda G.; Ungar, Peter S.; Passey, Benjamin H.; Sponheimer, Matt; Rossouw, Lloyd; Bamford, Marion; Sandberg, Paul; de Ruiter, Darryl J. et al. (27 Mehefin 2012). "The diet of Australopithecus sediba" . Nature . doi : 10.1038/nature11185 . http://www.nature.com/nature/journal/vaop/ncurrent/full/nature11185.html . Adalwyd 28 Mehefin 2012 .
  8. Boyle, Alan (28 Mehefin 2012). "This pre-human ate like a chimp" . MSNBC . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-30 . Cyrchwyd 28 Mehefin 2012 .
  9. Wilford, John Noble (28 Mehefin 2012). "Some Prehumans Feasted on Bark Instead of Grasses" . New York Times . Cyrchwyd 28 Mehefin 2012 .
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 10.5 Celia W. Dugger; John Noble Wilford (8 Ebrill 2010). "New hominid species discovered in South Africa" . New York Times . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-11 . Cyrchwyd 8 Ebrill 2010 . Unknown parameter |deadurl= ignored ( help )