Austin, Texas
|
|
Math
| dinas yn yr Unol Daleithiau, dinas fawr, tref ddinesig
|
---|
Enwyd ar ol
| Stephen F. Austin
|
---|
|
Poblogaeth
| 961,855
|
---|
Sefydlwyd
| - 1835
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Kirk Watson
|
---|
Cylchfa amser
| UTC?06:00, UTC?05:00
|
---|
Gefeilldref/i
| |
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Sir
| Travis County
|
---|
Gwlad
|
Unol Daleithiau America
|
---|
Arwynebedd
| 827.51276 km², 790.107506 km²
|
---|
Uwch y mor
| 149 ±1 metr
|
---|
Cyfesurynnau
| 30.3°N 97.7333°W
|
---|
Cod post
| 78701?78705, 78708?78739, 78741?78742, 78744?78769, 78701, 78704, 78709, 78711, 78714, 78717, 78719, 78722, 78724, 78728, 78730, 78734, 78737, 78742, 78746, 78749, 78751, 78752, 78757, 78759, 78760, 78763, 78765, 78769
|
---|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| Maer Austin
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Kirk Watson
|
---|
|
|
|
Austin
yw prifddinas y dalaith Americanaidd,
Texas
,
Unol Daleithiau
. Dyma yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn Texas a'r unfed ar ddeg ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal a hyn, Austin oedd y drydedd ddinas a ehangodd gyflymaf yn y wlad rhwng 2000 a 2006. Mae gan Austin boblogaeth o 790,390. Y ddinas yw canolbwynt diwylliannol ac economaidd yr ardal metropolitanaidd Austin?Round Rock gyda phoblogaeth o tua 1.6 miliwn o bobl.
Sefydlwyd yr ardal yn ystod y
1830au
ar lannau'r
Afon Colorado
gan ymgartrefwyr gwyn, a alwodd y pentref yn
Waterloo
. Ym 1839, dewiswyd Waterloo fel prif ddinas Gweriniaeth Texas a oedd newydd gael ei hannibyniaeth. Ail-enwyd y ddinas yn Austin ar ol
Stephen F. Austin
. Tyfodd y ddinas trwy gydol y 19g a daeth yn ganolfan ar gyfer y llywodraeth ac addysg wrth i Gapitol Talaith Texas a Phrifysgol Texas gael eu sefydlu yno. Wedi cyfnod o ddiffyg twf ar ol y
Dirwasgiad Mawr
parhaodd Austin ei datblygiad i fod yn ddinas a oedd yn ganolbwynt technoleg a busnes.