Atomfa'r Wylfa

Oddi ar Wicipedia
Atomfa'r Wylfa
Math atomfa   Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Llanbadrig   Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru  Cymru
Cyfesurynnau 53.4167°N 4.4833°W  Edit this on Wikidata
Rheolir gan Magnox Ltd  Edit this on Wikidata
Map

Gorsaf b?er niwclear yng ngogledd Ynys Mon yw Atomfa'r Wylfa neu Gorsaf B?er Niwclear yr Wylfa . Saif ar benrhyn ar yr arfordir, ychydig i'r dwyrain o dref Cemaes . Daw'r enw o enw t? a adeiladwyd ar y safle yn niwedd y 19g gan David Hughes.

Adeiladwyd yr atomfa o 1963 ymlaen (ond roedd gwaith paratoi'r safle wedi dechrau yn 1962) ac agorwyd yr orsaf yn 1971 . Mae'n cynnwys dau adweithydd niwclear Magnox, 490 MW yr un, "Wylfa-1" a "Wylfa-2". Hi yw'r orsaf fwyaf o'r math yma yn y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd yn 2006 y byddai gorsaf yr Wylfa yn cau yn 2010 , gan na byddai'n economaidd ei chadw wedi'r dyddiad hwnnw. Bu awgrym y gellid ei chadw ar agor am rai blynyddoedd wedyn. Mae hefyd awgrym adeiladu gorsaf niwclear newydd, Wylfa B, ar y safle, er bod hyn yn cael ei wrthwynebu gan gr?p PAWB (Pobl Atal Wylfa-B) .

Atomfa'r Wylfa
Mark Saunderson - Un o gynrychiolwyr Atomfa'r Wylfa (Cyflwyniad byr yn Eisteddfod Genedlaethol 2017)

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]