Cyfansoddyn organig
yw
asid ocsalig
, gyda'r
fformiwla gemegol
H
2
C
2
O
4
. Mae'n perthyn i deulu
asid deucarbocsilig
a adnabyddir gan y fformiwla
HOOC
COOH
. Mae'n asid eitha cryf, tua deg mil o weithiau'n gryfach nag
asid ethanoig
. Mae'r deu-
anion
, a adnabyddir fel
ocsalad
, hefyd yn
rydwythydd
('reducing agent') ac yn
ligand
.
Fe geir asid ocsalig ym myd natur, mewn dail a gwreiddiau
riwbob
a llawer o blanhigion eraill. Yr asid hon sy'n gwneud dail y planhigyn yn wenwynig.