Mae Asafa Powell (ganed 23 Tachwedd 1982 ) yn sbrintiwr o Jamaica ac yn fab i ddau weinidog, Cislyn Powell a William Powell, ei dad o Linstead, Jamaica. Daliodd y record byd am redeg y 100m rhwng Mehefin 2005 a Mai 2008 gyda amseroedd o 9.77 a 9.74 eiliad. Roedd yn rhan o'r tim a enillodd fedal aur a thorri y record Byd yn y ras gyfnewid 4x100m yng Ngemau Olympaidd Beijing yn Haf 2008.