Arthur Bottomley
|
---|
|
Ganwyd
| 7 Chwefror 1907
Llundain
|
---|
Bu farw
| 3 Tachwedd 1995
Llundain
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Lloegr
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
|
---|
Swydd
| aelod o D?'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop
|
---|
Plaid Wleidyddol
| y Blaid Lafur
|
---|
Priod
| Bessie Ellen Wiles
|
---|
Gwobr/au
| OBE
|
---|
Roedd
Arthur George Bottomley, Barwn Bottomley
,
OBE
, PC (
7 Chwefror
1907
-
3 Tachwedd
1995
) yn wleidydd
Llafur
Prydeinig, yn
Aelod Seneddol
ac yn weinidog y goron.
[1]
.
Roedd Bottomley yr hynaf o bum plentyn George Howard Bottomley, peiriannydd, ac Alice ei wraig. Mynychodd Ysgol Gynradd Gamuel Road, ac Ysgol Bechgyn Pretoria Avenue yn Walthamstow.
[2]
Ym 1936 priododd Bessie Ellen Wiles, ni fu iddynt blant.
Cyn ymuno a'r
Senedd
, roedd Bottomley yn drefnydd
undeb llafur
i Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Cyhoeddus (
NUPE
, a ddaeth yn rhan o UNSAIN yn ddiweddarach). O 1929 hyd 1949 roedd yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref
Walthamstow
, ac ym 1945-1946 bu'n Faer Walthamstow. Fe'i penodwyd yn Swyddog yn
Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
(OBE) yn Anrhydedd Pen-blwydd 1941.
Etholwyd Bottomley i'r senedd am y tro cyntaf yn
etholiad cyffredinol 1945
fel yr aelod dros etholaeth Chatham,
Swydd Caint
ac fe'i cynhaliodd y sedd (a enwyd yn ddiweddarach yn Rochester a Chatham) hyd iddo ei golli yn
etholiad cyffredinol 1959
i'r
Ceidwadwr
Julian Critchley. Dychwelodd i'r senedd trwy ennill yng Ngorllewin Middlesbrough mewn isetholiad yn 1962 a daliodd y sedd, a'i olynydd Middlesbrough, hyd iddo ymddeol yn 1983.
[3]
.
Gwasanaethodd Bottomley fel gweinidog iau yn llywodraethau
Clement Attlee
. Bu'n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Materion Dominiwn rhwng 1946 a 1947, ac yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Cysylltiadau a'r Gymanwlad ym 1947. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Masnach Dramor yn y Bwrdd Masnach o 1947 hyd 1951). Yn llywodraethau
Harold Wilson
gwasanaethodd fel
Ysgrifennydd Gwladol dros Gysylltiadau a'r Gymanwlad
o 1964 i 1966). Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd yn ceisio delio a chanlyniadau Datganiad Annibyniaeth Unochrog
Rhodesia
. Ym 1966 fe wnaed yn Weinidog dros Ddatblygu Tramor (1966-67).
[1]
Fe'i dyrchafwyd i
D?'r Arglwyddi
fel Barwn am oes,
Y Barwn Bottomley, o Middlesbrough yn Swydd Cleveland
ar
31 Ionawr
1984
.
Bu farw'r Arglwydd Bottomley ar 3 Tachwedd 1995 yn 88 oed.
[2]
- Why Britain should Join the Common Market, 1959;
- Two Roads to Colonialism, 1960;
- The Use and Abuse of Trade Unions, 1961;
- Commonwealth Comrades and Friends, 1986
- ↑
1.0
1.1
Goldsworthy, D. (2004, September 23). Bottomley, Arthur George, Baron Bottomley (1907?1995), politician.
Oxford Dictionary of National Biography.
adalwyd 6 Rhagfyr 2018,
- ↑
2.0
2.1
Dalyell, Tam (7 Tachwedd1995).
"OBITUARY: Lord Bottomley"
.
The Indipendent
. Cyrchwyd
7 Rhagfyr
2018
.
- ↑
(2007, December 01). Bottomley, Baron, (Arthur George Bottomley) (7 Feb. 1907?3 Nov. 1995).
WHO'S WHO & WHO WAS WHO.
[
dolen marw
]
adalwyd 6 Rhagfyr 2018