Offeiriad Cristnogol a sylfaenydd credo
Ariadaeth
neu Ariaeth oedd
Arius
(
c. 256
-
336
).
Yn ol
Epiphanius o Salamis
roedd Arius yn frodor o
Libya
, yn ol pob tebyg hen dalaith Rufeinig
Cyrenaica
.
Dechreuodd y ddadl yn
Alexandra
yn
yr Aifft
, lle roedd Arius yn byw. Roedd yr Esgob
Alexander o Alexandria
ac
Athanasius
yn credu fod
Iesu
o'r un sylwedd (
ousia
) a Duw y Tad, tra'r oedd Arius yn credu ei fod o sylwedd debyg ond nid yr un fath, a bod y Mab wedi ei greu gan y Tad. Galwyd
Cyngor Cyntaf Nicaea
gan yr ymerawdwr Rhufeinig
Cystennin I
yn
325
i ddyfarnu ar y mater. Dyfarnodd y Cyngor yn erbyn yr Ariaid.
Parhaodd Ariadaeth yn boblogaidd yn
Ymerodraeth Caergystennin
a chafodd gefnogaeth gan ymerodron diweddarach
Caergystennin
fel
Constantius II
a
Valens
. Collodd Ariadaeth golli tir ar ol
Cyngor Cyntaf Caergystennin
o dan yr Ymerawdr
Theodosius
yn
381
, ond arhosodd yn ddylanwadol ymysg y teyrnasoedd
Germanaidd
cynnar, yn enwedig gan y
Gothiaid
.